Lles anifeiliaid

Diweddarwyd y dudalen ar: 12/02/2024

Mae amrywiaeth eang o ddeddfwriaeth yn y DU sydd â'r nod o ddiogelu iechyd a lles anifeiliaid domestig ac anifeiliaid gwyllt.

Rydym yn gorfodi deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid ochr yn ochr ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA). Weithiau, byddwn yn cynnwys cyrff eraill y llywodraeth a sefydliadau annibynnol megis yr RSPCA.

Rydym ni'n gyfrifol am ac yn ymateb i atgyfeiriadau cyhoeddus ym mhob un o'r meysydd hyn:

  • Archwilio anifeiliaid ar ffermydd
  • Archwilio anifeiliaid mewn marchnadoedd da byw, lladd-dai, ierdydd naceriaid, cynelau hela a digwyddiadau anifeiliaid trwyddedig
  • Archwilio cerbydau sy'n cludo anifeiliaid
  • Gorfodi amrywiaeth o ddeddfwriaeth wrth wneud ymweliadau o'r fath gan gynnwys deddfwriaeth yn ymwneud â rheoli clefydau, adnabod anifeiliaid, symud anifeiliaid, bioddiogelwch, lles anifeiliaid a sgil-gynhyrchion anifeiliaid
  • Cofrestru anifeiliaid perfformio
  • Monitro anifeiliaid sy'n cael eu mewnforio'n anghyfreithlon a chymryd camau gorfodi ynghylch hyn
  • Trwyddedu sefydliadau marchogaeth ceffylau, bridio cŵn a lletya anifeiliaid
  • Anifeiliaid gwyllt peryglus
  • Rheoli cŵn strae
  • Rheoli sŵn (cŵn yn cyfarth a sŵn gan anifeiliaid eraill)
    Cŵn peryglus
  • Deddf Anifeiliaid Anwes 1951

DEFRA

Mae DEFRA yn gyfrifol am:

  • Y strategaeth iechyd a lles anifeiliaid genedlaethol
  • Masnach ryngwladol mewn anifeiliaid
  • Cadwraeth bywyd gwyllt a bioamrywiaeth
  • Troseddau bywyd gwyllt (mae'r heddlu'n ymwneud â hyn hefyd)

DEFRA