Trwydded anifeiliaid

Diweddarwyd y dudalen ar: 29/04/2021

Mae cyfrifoldeb ar swyddogion Lles Anifeiliaid i wneud y canlynol:

  • rhoi cyngor ynghylch agweddau ar drwyddedau lles anifeiliaid
  • archwilio a rhoi trwyddedau i safleoedd sy'n destun deddfwriaeth anifeiliaid megis cynelau lletya cŵn, llety cathod, siopau anifeiliaid anwes, sefydliadau marchogaeth ac eraill
  • ymchwilio i gwynion ynghylch lles anifeiliaid yn y safleoedd hyn
  • cymryd camau ffurfiol yn erbyn troseddwyr lle mae camau eraill heb lwyddo ac ymchwilio i gwynion ynghylch gweithgareddau anghyfreithlon

Mae angen trwyddedau ar gyfer:

  • sefydliadau marchogaeth
  • cadw anifeiliaid peryglus/anifeiliaid gwyllt
  • cynelau lletya cŵn
  • llety cathod
  • sefydliadau bridio cŵn
  • siopau anifeiliaid anwes
Math o sefydliad Ffi newydd Ffi adnewyddu
Lletya anifeiliaid - Llety Cartref £252 £147
Lletya anifeiliaid - Un rhywogaeth £241 £241
Lletya anifeiliaid - Dwy rywogaeth £256 £256
Bridio cŵn - Hyd at 10 gast £457 £272
Bridio cŵn - 11-25 gast £552 £298
Bridio cŵn - 26 - 50 gast £619 £354
Bridio cŵn - 51 - 80 gast £737 £405
Bridio cŵn - Mwy na 80 gast £778 £435
Siopau anifeiliaid anwes £428 £428
Ysgolion marchogaeth - Hyd at 5 ceffyl £192 £192
Ysgolion marchogaeth - 6 - 10 ceffyl £370 £370
Ysgolion marchogaeth - 11 - 20 ceffyl £381 £381
Ysgolion marchogaeth - 21 - 50 ceffyl

£395

£395
Ysgolion marchogaeth - Mwy na 50 ceffyl £418 £418
Anifeiliaid gwyllt peryglus £1,043 £1,043