Hawlenni hapchwarae

Diweddarwyd y dudalen ar: 14/08/2023

Rydym yn gyfrifol am gyflwyno nifer o wahanol fathau o hawlenni hapchwarae.

Peiriannau hapchwarae mewn safleoedd sydd â thrwydded alcohol

Mae gan safleoedd sydd â thrwydded alcohol hawl awtomatig i ddarparu dau beiriant hapchwarae categori C neu D ar y safle, ar yr amod ein bod wedi cael hysbysiad ac wedi derbyn y ffi berthnasol. Byddwn ni'n cyflwyno tystysgrif i gadarnhau bod hysbysiad mewn grym. Rhaid cyflwyno hysbysiad newydd os bydd deiliad y drwydded safle yn newid.

I ddarparu mwy na dau beiriant hapchwarae categori C a D, mae'n rhaid ichi wneud cais am hawlen peiriannau hapchwarae. Mae'r hawlen hon yn disodli'r hawl awtomatig, yn hytrach na bod yn ychwanegol at hynny.

Peiriannau hapchwarae mewn canolfannau adloniant teulu heb eu trwyddedu

Gall canolfannau adloniant teulu heb eu trwyddedu gynnig peiriannau categori D os cânt hawlen peiriannau hapchwarae oddi wrthym ni. Gall unrhyw nifer o beiriannau categori D gael eu darparu â'r cyfryw hawlen (yn amodol ar ystyriaethau heblaw hapchwarae, megis rheoliadau tân ac iechyd a diogelwch).

Hapchwarae am wobrau

Hapchwarae am wobrau yw lle na phennir natur a maint y wobr sydd ar gael naill ai gan:

  • nifer y bobl sy'n chwarae
  • y swm a delir am yr hapchwarae, nac a godir ganddo

Gellir cyflwyno hawlenni hapchwarae am wobrau, i'r rhai a hoffai gynnal hapchwarae am wobrau o safle sydd yn eu meddiant, neu y maent yn bwriadu ei feddiannu, os nad oes gan y safle eisoes drwydded safle neu hawlen ar gyfer hapchwarae mewn clwb.

Hawlenni ar gyfer Hapchwarae mewn clybiau a peiriannau hapchwarae mewn clybiau

Mae dau fath o hawlen clwb ar gael - hawlen ar gyfer hapchwarae mewn clwb neu hawlen ar gyfer peiriannau hapchwarae mewn clwb.

Mae hawlenni ar gyfer hapchwarae mewn clybiau yn caniatáu darparu dim mwy na chyfanswm o dri pheiriant hapchwarae. Rhaid i bob un o'r tri pheiriant berthyn i gategorïau B3A, B4, C neu D, ond dim ond un peiriant B3A y gellir ei leoli, drwy gytundeb, fel rhan o'r hawl hon. Mae hawlenni ar gyfer hapchwarae mewn clybiau hefyd yn caniatáu hapchwarae siawns gyfartal (er enghraifft, pocer) a gêmau siawns (er enghraifft, pontŵn, chemin-de-fer), o dan gyfyngiadau arbennig.

Mae hawlenni ar gyfer peiriannau hapchwarae mewn clybiau yn caniatáu i'r deiliad feddu ar ddim mwy na chyfanswm o dri pheiriant hapchwarae. Gall clybiau aelodau a sefydliadau lles glowyr leoli hyd at dri pheiriant o gategorïau B3A, B4, C neu D, ond dim ond un peiriant B3A y gellir ei leoli, drwy gytundeb, fel rhan o'r hawl hon. Gall clybiau masnachol leoli hyd at dri pheiriant o gategorïau B4, C neu D (nid peiriannau B3A).

Ffioedd

Mae ffi flynyddol yn daladwy yn y flwyddyn gyntaf, 30 diwrnod ar ôl caniatáu'r hawlen, ac yna bob blwyddyn ddilynol ar ben-blwydd cyflwyno'r hawlen. Gweler ffyrdd i dalu isod.

Gwnewch gais am drwydded

Fe'ch cynghorir i ddarllen y canllawiau a'r dogfennau polisi perthnasol a chysylltu â'r adran drwyddedu gydag unrhyw ymholiadau cyn cwblhau cais.

Rhaid i chi wneud eich cais mewn person yn un o'n canolfannau gwasanaeth cwsmeriaid. Bydd angen i chi ddarparu'r eitemau canlynol:

  • Ffurflen gais wedi'i chwblhau
  • Dogfennau ategol
  • Ffi

Nid yw hawlenni hapchwarae ar gael i'w lawrlwytho, cysylltwch â ni i ofyn am y ffurflen hon.