Hawlenni Amgylcheddol

Diweddarwyd y dudalen ar: 26/04/2024

Mae gofyn sicrhau hawlen ar gyfer rhai prosesau a allai ryddhau sylweddau i'r aer (e.e. gwaith sypiau concrid, chwareli, gorsafoedd petrol, gweithgynhyrchwyr bwyd anifeiliaid anwes ac ati), er mwyn gweithredu o dan ddarpariaethau Rheoliadau Hawlenni Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016. Bydd yr hawlen yn nodi pa fesurau rheoli mae'n rhaid iddynt fod yn eu lle i gyfyngu gymaint â phosibl ar yr hyn a ryddheir yn sgil y broses, gan gadw at safonau derbyniol.

Mae Adran 12 yn nodi y gallwch dim ond weithredu "cyfleuster rheoledig" pan wnaed cais am Hawlen Amgylcheddol a'i chaniatáu. Mae Rhan 2 o Atodlen 1 o Reoliadau Hawlenni Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 yn nodi ymhle mae pob gweithgaredd yn perthyn oddi mewn i'r drefn reoleiddio.

Gallwch wirio i weld a oes angen hawlen Amgylcheddol arnoch ar wefan .gov.uk

  • Mae gosodiadau Rhan A1 (Atal a Rheoli Llygredd Integredig – “IPPC”) yn cynnwys gweithgareddau a all olygu bod sylweddau'n cael eu rhyddhau i'r tir, yr aer neu'r dŵr (neu gyfuniad o'r cyfan). Mae'r gosodiadau hyn fel arfer yn fawr ac yn gymhleth, ac yn cael eu rheoleiddio gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Mae'r dosbarthiadau canlynol o Gyfleuster a Reoleiddir fel arfer yn cael eu rheoleiddio gan Awdurdod Lleol yr ardal y maent ynddi:

  • Mae gosodiadau "Rhan A2" Gosodiadau neu Offer Symudol (Awdurdod Lleol – Atal a Rheoli Llygredd Integredig - LA-IPPC) fel Rhan A1 yn cynnwys gweithgareddau a all olygu bod sylweddau'n cael eu rhyddhau i'r tir, yr aer neu'r dŵr, ond maent yn tueddu i fod yn llai ac yn llai cymhleth na phrosesau Rhan A1.
  • Mae gosodiadau "Rhan B" Gosodiadau neu Offer Symudol (Awdurdod Lleol - Atal a Rheoli Llygredd – LAPPC) yn cynnwys gweithgareddau lle nad oes dim heblaw rhyddhau i'r aer yn berthnasol.
  • Atodlen 13 Offer Llosgi Gwastraff Bach: Gosodiadau y mae Pennod IV o'r Gyfarwyddeb Allyriadau Diwydiannol yn berthnasol iddynt.
  • Atodlen 14 Gweithgaredd Allyriadau Toddyddion: Gosodiadau a gweithgareddau y mae Pennod V o'r Gyfarwyddeb Allyriadau Diwydiannol yn berthnasol iddynt, sy'n ymwneud â'r defnydd o doddyddion organig.

Nod pob un o'r trefniadau rheoleiddio hyn yw atal allyriadau neu, lle nad yw hynny'n ymarferol bosibl, eu gostwng i safonau derbyniol.