Trwydded i ymgymryd â chloddio dros dro yn y briffordd

Diweddarwyd y dudalen ar: 01/08/2024

Os ydych chi'n bwriadu gwneud gwaith cloddio dros dro yn y briffordd, rhaid i chi wneud cais am ganiatâd gan ein tîm gofal stryd o dan Ddeddf Priffyrdd 1980.

Defnyddir cloddio dros dro ar gyfer tyllau prawf i sefydlu cyflwr y ddaear a phennu union leoliad y cyfarpar cyfleustodau. Gall defnyddiau eraill fod i ffurfio arwynebau dros dro ac ailadeiladu waliau terfyn lle mae angen cloddio ar y briffordd.

Rhaid i waith gael ei wneud gan berson sydd â chymhwyster rhagnodedig fel goruchwyliwr. Rhaid i chi hefyd sicrhau bod person â chymwysterau rhagnodedig fel gweithredwr hyfforddedig yn bresennol ar y safle pan fydd y gwaith yn mynd rhagddo.

Ar gyfer cais Cloddio Dros Dro, bydd angen i chi gynnwys:

  • Ffioedd Cloddio Dros Dro ac Archwilio Safle o £591.
  • 1 copi o gynllun y safle i raddfa heb fod yn llai na 1/500 ar y ddaear gan ddangos eiddo'r ymgeisydd a gwaith arfaethedig wedi'i farcio mewn coch.
  • 1 copi o gynllun lleoliad i raddfa heb fod yn llai na 1/1250 ar y ddaear neu 1/2500 ar y ddaear neu 1 / 10,000 ar y ddaear gan ddangos lleoliad y safle mewn perthynas â'r hyn sydd o'i amgylch.

Caniatewch 28 diwrnod i brosesu cais cloddio dros dro.

lawrlwytho y ffurflen ymgais (.pdf)