Trwydded cerbydau hacnai

Diweddarwyd y dudalen ar: 14/08/2023

Cerbydau cludo teithwyr yw cerbydau hacnai, sy'n cael eu trwyddedu a'u rheoli gennym ni. Yr enw mwy cyffredin arnynt yw tacsis. Mae gan gerbydau hacnai arwydd ar y to yn dwyn y gair 'Taxi' yn y blaen a 'Tacsi' yn y cefn, gyda'n logo ni ar y ddwy ochr, ynghyd â sticeri ar y ddau ddrws blaen a phlât trwyddedu ar y bympar ôl.

Mae'n rhaid i'r holl gerbydau hacnai gael eu profi yn ein gorsaf brofi, lle sicrheir eu bod yn cyrraedd ein safon benodedig.

Gosodir Mesurydd Tacsi ym mhob cerbyd hacnai, i gyfrifo'r tâl am y daith. Rhaid i'r tâl beidio â bod yn fwy na phrisiau uchaf y Cyngor - rhaid arddangos cerdyn sy'n rhestru ein prisiau uchaf ynghyd â manylion taliadau is y cwmni tacsi ei hun.

Lawrlwytho canllaw i daliadau tacsi (.pdf)

Cyn cyflwyno eich cais, fe'ch cynghorir i gysylltu â ni i drafod pa mor addas yw eich cerbyd yn ogystal â thrafod ei yswiriant. Hefyd rydym yn eich cynghori i ddarllen amodau ein trwydded ar gyfer cerbydau hacnai.

Er y gallwch anfon ceisiadau atom drwy'r post, rydym yn eich annog i ddod â'ch cais i un o'n canolfannau gwasanaeth cwsmeriaid. Bydd angen ichi ddarparu'r eitemau canlynol:

  • Ffurflen gais wedi'i chwblhau (gyda'r holl adrannau wedi'u cwblhau)
  • Llyfr lóg y cerbyd (V5)
  • MOT dilys (sy'n ofynnol 12 mis ar ôl y dyddiad cofrestru cyntaf)
  • Y ffi ar gyfer y drwydded
  • Yswiriant ar gyfer hurio cyhoeddus a phreifat

Er y gallwch anfon ceisiadau atom drwy'r post, rydym yn eich annog i ddod â'ch cais i un o'n canolfannau gwasanaeth cwsmeriaid. Bydd angen ichi ddarparu'r eitemau canlynol:

  • Ffurflen gais wedi’i chwblhau
  • Ffi drosglwyddo
  • Tystysgrif yswiriant ddilys
  • Dogfen cofrestru cerbyd / bil gwerthiant

Lawrlwythwch ffurflen gais (.pdf)

Mae dyletswydd arnom, fel corff cyhoeddus, i ddiogelu'r cyllid cyhoeddus a weinyddir gennym ac i'r diben hwn cawn ddefnyddio'r wybodaeth a ddarperir inni ar ffurflenni cais i atal a darganfod twyll. Gallwn hefyd rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus at y dibenion hyn.