Trwydded safle

Diweddarwyd y dudalen ar: 14/02/2024

Mae trwydded safle yn awdurdodi defnyddio'r safle ar gyfer un neu fwy o weithgareddau trwyddedadwy sef:

  • Gwerthu alcohol trwy fanwerthu
  • Darparu adloniant rheoledig
  • Darparu lluniaeth hwyrnos

Wrth baratoi ceisiadau, dylech ddarllen ein Polisi Trwyddedu a dilyn y canllawiau statudol (a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref o dan adran 182 o Ddeddf Trwyddedu 2003), wrth ddisgrifio'r camau rydych yn bwriadu eu cymryd er mwyn hybu'r amcanion trwyddedu, sef:

  • Atal Troseddu ac Anhrefn
  • Diogelu'r Cyhoedd
  • Atal Niwsans Cyhoeddus
  • Amddiffyn Plant rhag Niwed

Mae rhai rhannau o'r Sir yn destun Polisi Effaith Gronnol ac mae rhannau eraill wedi'u hamlygu fel mannau trafferthus o ran troseddau ac anhrefn sy'n gysylltiedig ag alcohol, a rhoddir sylw i'r naill a'r llall yn y polisi.

Gallwch wneud cais am drwydded ar wefan gov.uk neu gallwch lawrlwytho'r dogfennau perthnasol a'u dychwelyd atom ni.

Gwneud cais am drwydded safle

Os yw eich cais yn ymwneud â neuadd gymuned, neuadd eglwys neu neuadd bentref, gallwch wneud cais am wneud gwerthu alcohol yn gyfrifoldeb i bwyllgor rheoli, yn hytrach nag i oruchwylydd safle, cyhyd â bod y drwydded safle yn eiddo i’r pwyllgor.

Hefyd gallwch wneud cais am gyfnewid Goruchwylydd Penodedig y Safle, os oes un gennych eisoes, am bwyllgor rheoli.

Yn dibynnu ar y math o newid yr hoffech ei wneud, gallwch gyflwyno cais amrywiad llawn neu fân amrywiad.

Mae'r broses amrywio lawn yn debyg iawn i'r broses gwneud cais am drwydded safle newydd, a'r un yw'r ffi. Dylech ddefnyddio'r broses hon os ydych am wneud newidiadau i'ch trwydded, er enghraifft, cynyddu'r oriau pryd y byddwch yn gwerthu alcohol.

Os ydych am wneud newid bach i'ch trwydded safle, mae'n bosibl y byddwch yn gallu defnyddio'r broses mân amrywiadau. Mae hyn yn rhatach ac yn gyflymach na gwneud cais am amrywiad llawn. Gallai newidiadau bach gynnwys:

  • dileu gweithgaredd trwyddedadwy
  • lleihau eich oriau gwerthu alcohol
  • gwneud mân newidiadau i gynllun eich safle

Os byddwch yn gwneud cais am fân amrywiad ac os gwrthodir eich cais, ni fyddwch yn gallu apelio. Fodd bynnag, gallwch ailgyflwyno cais gan ddefnyddio'r broses amrywiad llawn. Yr unig bryd y gellir defnyddio'r broses hon yw lle na fydd yr amrywiadau'n cael effaith niweidiol ar hyrwyddo unrhyw un o'r pedwar amcan trwyddedu (atal troseddu ac anhrefn, diogelu’r cyhoedd, atal niwsans cyhoeddus, amddiffyn plant rhag niwed).

Fe'ch cynghorir i gysylltu â ni i drafod eich cynnig cyn cyflwyno cais. Gallwch wneud cais am amrywiad i drwydded ar wefan gov.uk neu gallwch lawrlwytho'r dogfennau perthnasol a'u dychwelyd atom.

Gwneud cais am amrywiad llawn  Gwneud cais am fân amrywiad

Mae datganiad amodol yn rhoi cyfle i chi ganfod a fyddai safle sy'n cael ei adeiladu neu ei addasu'n sylweddol (neu lle mae gwaith o'r fath ar fin digwydd) er mwyn darparu gweithgareddau trwyddadwy yn derbyn trwydded safle wedi i'r gwaith adeiladu gael ei gwblhau.

Mae hyn yn rhoi syniad i chi a yw'r busnes arfaethedig yn ddichonadwy neu beidio cyn buddsoddi symiau sylweddol o arian.

Lawrlwytho ffurflen gais am ddatganiad amodol

Gallwch wneud cais am amrywiad ar wefan gov.uk neu gallwch lawrlwytho'r dogfennau perthnasol a'u dychwelyd atom ni.

Gwneud cais am amrywio Goruchwylydd Penodedig y Safle

Os nad ydych bellach yn dymuno cyflawni rôl Goruchwylydd Penodedig y Safle, ond ni chyflwynwyd cais am amrywio'r drwydded, gallwch ofyn am gael tynnu eich enw oddi ar y drwydded.

Rhaid gwneud y cais yn ysgrifenedig, gan nodi eich enw a'ch cyfeiriad, yn ogystal â manylion y safle a rhif y drwydded. Rhaid i'r hysbysiad nodi hefyd ar ba amser a dyddiad rydych am beidio â bod yn Oruchwylydd Penodedig y Safle, a rhaid iddo gadarnhau eich bod wedi rhoi copi o'r hysbysiad i ddeilydd y drwydded safle, gan ofyn iddo/iddi ddychwelyd y drwydded i'r Awdurdod cyn pen 14 diwrnod ar ôl derbyn yr hysbysiad.

Os na ddilynir y weithdrefn hon, byddwch yn parhau i fod yn Oruchwylydd Penodedig ar gyfer y safle.

Nid oes angen talu ffi i gyd-fynd â'r cais hwn.

Er mwyn trosglwyddo trwydded safle i chi oddi wrth ddeilydd presennol y drwydded, rhaid i chi wneud cais am newid y drwydded yn ffurfiol. Gallwch wneud cais i drosglwyddo trwydded ar wefan gov.uk neu gallwch lawrlwytho'r dogfennau perthnasol a'u dychwelyd atom ni.

Hysbysiad Awdurdod Interim

Rhaid cyflwyno Hysbysiad Awdurdod Interim os bydd deilydd trwydded safle yn marw, yn mynd yn fethdalwr, neu'n mynd yn analluog yn feddyliol. Bydd Hysbysiad Awdurdod Interim yn golygu bod modd i safle fasnachu nes bod modd trosglwyddo'r drwydded.

Trosglwyddo trwydded safle  Lawrlwythwch ffurflen gais am Hysbysiad Awdurdod Interim (.pdf)

IOs nad ydych yn dymuno parhau i fod yn ddeilydd trwydded safle, gallwch ddewis cyflwyno cais ysgrifenedig i ildio'r drwydded. Ar ôl ichi lawrlwytho a chwblhau'r ffurflen, dylech ei dychwelyd atom ynghyd â dogfennau'r drwydded berthnasol.

Ar ôl cyflwyno'r hysbysiad ildio, mae cyfnod o 28 diwrnod pryd y gellir cyflwyno ceisiadau am drosglwyddo'r drwydded heb eich caniatâd.

Lawrlwythwch hysbysiad ildio trwydded safle (.pdf)

Os ydych chi'n rhydd-ddeiliad, yn lesddeiliad neu’n feddiannwr eiddo sydd â thrwydded safle, gallwch ofyn i ni roi gwybod i chi pan dderbynnir cais ynghylch y safle dan sylw.

Lawrlwythwch ffurflen gais am ddatgan buddiant (.pdf)