Trwydded casgliadau elusennol
Diweddarwyd y dudalen ar: 10/01/2024
Os ydych yn bwriadu casglu arian at elusen, rhaid ichi gael hawlen. Ni chodir tâl am y rhain. Rydym yn rhoi dau fath o hawlen Casgliadau Elusennol. Un ar gyfer casglu ar y stryd a'r llall ar gyfer casglu o dŷ i dŷ.
Hawlenni Casgliadau Stryd
Gall unrhyw un sy'n cynrychioli'r corff sy'n bwriadu cynnal casgliad elusennol ar y stryd wneud cais am hawlen.
Mae angen hawlen Casgliadau Stryd hefyd ar gyfer casgliad stryd sy'n gwerthu nwyddau neu gylchgronau i'r cyhoedd i godi arian at ddibenion elusennol sefydliad.
Bydd hawlen yn caniatáu ichi gynnal casgliad ar y stryd ar ddyddiad penodol mewn rhan benodol o Sir Gaerfyrddin.
Hawlenni casglu o dŷ i dŷ
Os ydych yn bwriadu casglu arian neu eitemau o dŷ i dŷ at ddiben elusennol, rhaid ichi'n gyntaf gael hawlen casglu o dŷ i dŷ, oni bai bod y Swyddfa Gartref wedi rhoi tystysgrif eithrio i'r corff yr ydych yn ei gynrychioli.
Mae rhai elusennau sy'n casglu dros ardal eang wedi cael Tystysgrif Eithrio gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Gall y rhain elusennau gasglu heb gael trwydded arall ond rhaid ichi ein hysbysu am y casgliad. Mae rhestr gyfredol o'r deiliaid tystysgrif eithrio i'w chael ar wefan y Swyddfa Gartref.
Mae nifer o Barthau 'Dim Galw heb Wahoddiad' yn Sir Gaerfyrddin lle na chaniateir ichi gasglu. Cewch ragor o wybodaeth yn ein nodiadau cyfarwyddo.
Dychwelyd manylion am yr hyn a gasglwyd at elusen
Ar ôl ichi gynnal eich casgliad, rhaid ichi lenwi ffurflen yn nodi manylion yr hyn a gasglwyd a'i dychwelyd atom, yn unol â'r rheoliadau perthnasol ynghylch casgliadau.
Gwneud cais am hawlen
Cyn ichi gyflwyno cais, fe'ch cynghorir i ddarllen ein nodiadau cyfarwyddo er mwyn gofalu eich bod yn bodloni gofynion y rheoliadau.
Os ydych yn gwneud cais i gasglu yn ystod y flwyddyn galendr nesaf, ni fyddwn yn penderfynu ar eich cais tan fis Ionawr y flwyddyn honno. Fodd bynnag, rydym yn eich annog i gyflwyno eich cais erbyn mis Tachwedd os oes modd, er mwyn inni gael digon o amser i helpu cynifer o ymgeiswyr ag y bo modd.
Sylwch hefyd fod ein polisi'n gosod cyfyngiadau ar ymgeiswyr am hawlenni casgliadau stryd sef casglu ar uchafswm o un dydd Sadwrn ac un diwrnod yn ystod yr wythnos mewn man penodol yn Sir Gaerfyrddin yn ystod pob blwyddyn galendr.
Fe’ch cynghorir yn gryf y dylai'r ceisiadau am ddyddiadau casglu yn ystod y flwyddyn gyfredol gael eu cyflwyno o leiaf chwe wythnos cyn dyddiad y casgliad arfaethedig.
Ni fyddwn yn caniatáu cynnal mwy nag un casgliad mewn ardal leol benodol ar yr un pryd.
Sicrhewch fod eich cais yn cynnwys:
- Ffurflen gais wedi'i chwblhau
- Cyfrifon/adroddiad ariannol blynyddol diweddaraf yr elusen
- Manylion am waith yr elusen, ac yn arbennig unrhyw brosiectau sy'n cael cymorth yn Sir Gaerfyrddin.
Mae dyletswydd arnom, a ninnau'n gorff cyhoeddus, i ddiogelu'r cyllid cyhoeddus yr ydym ni'n ei weinyddu ac i'r diben hwn, mae modd inni ddefnyddio'r wybodaeth a roddir inni ar ffurflenni cais i atal twyll a'i ddarganfod. Gallwn hefyd rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus at y dibenion hyn.
Trwyddedu a Hawlenni
Pa drwyddedau sydd ei angen arnoch i fasnachu yn yr awyr agored?
Trwyddedau alcohol ac adloniant
- Tystysgrif safle clwb
- Trwydded safle
- Trwyddedau personol
- Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro
- Gwneud sylwadau ar geisiadau am drwydded
- Gwneud cwyn am safle trwyddedig
- Adnewyddu / canslo eich trwydded
- Ffioedd blynyddol
- Gwneud cais am adolygiad
Trwydded casgliadau elusennol
Hawlenni Amgylcheddol
Trwyddedau hapchwarae
- Trwydded loteri
- Trwyddedau safleoedd hapchwarae
- Hawlenni hapchwarae
- Hysbysiadau defnydd dros dro ac achlysurol
Trwydded safle carafanau gwyliau
Polisi trwyddedu
Cartrefi symudol – Trwydded safle preswyl
Trwydded delwyr metel sgrap
Trwydded busnesau rhyw
Trwydded caffi stryd
Trwydded masnachu ar y stryd
Mwy ynghylch Trwyddedu a Hawlenni