Tacsis a cherbydau hurio preifat

Diweddarwyd y dudalen ar: 28/02/2019

Coronafeirws (COVID-19)

Yn dilyn canllawiau newydd gan Lywodraeth Cymru, rydym wedi cyhoeddi gwybodaeth am sut rydym yn bwriadu ailagor canol ein trefi yn ddiogel.

Rydym wedi llunio canllawiau penodol ac adnoddau y gallwch eu lawrlwytho i’ch helpu i baratoi ar gyfer ailagor eich busnes. Mae hyn yn ategu’r dull 5 cam a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn ymestyn y Gronfa Cadernid Economaidd ymhellach ac yn cyflwyno Grant Dechrau Busnes i fusnesau. Darganfyddwch a ydych chi'n gymwys.

Cofiwch barhau i edrych ar y dudalen newyddion i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Gallwch hefyd ein dilyn ar Facebook a Twitter.

Rydym ni'n cyflwyno trwyddedau ar gyfer cerbydau Hacni a cherbydau hurio preifat, yn ogystal â thrwyddedau gweithredwyr hurio preifat a thrwyddedau gyrru deuol.

Fe'ch cynghorir i ddarllen y canllawiau perthnasol i sicrhau eich bod yn medru bodloni'r gofynion cyn cyflwyno cais.