Cerbydau sy'n Hygyrch i Gadeiriau Olwyn
Mae'n ofynnol i'r Cyngor gynnal rhestr ddynodedig o gerbydau sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Mae'r rhestr hon yn gosod rhwymedigaethau ar yrwyr cerbydau sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn o ran y canlynol:
- Cludo'r teithiwr yn y gadair olwyn
- Peidio â chodi unrhyw dâl ychwanegol am wneud hynny
- Cario'r gadair olwyn os yw'r teithiwr yn dewis eistedd ar sedd i deithiwr
- Cymryd camau yn ôl yr angen i sicrhau bod y teithiwr yn cael ei gludo'n ddiogel ac yn rhesymol gysurus a
- Rhoi'r cymorth symudedd sy'n rhesymol ofynnol i'r teithiwr.
Diffinnir cymorth symudedd fel a ganlyn:
- Galluogi'r teithiwr i fynd i mewn ac allan o'r cerbyd
- Galluogi'r teithiwr i fynd i mewn ac allan o'r cerbyd mewn cadair olwyn os yw'n dymuno aros yn y gadair olwyn.
- Llwytho bagiau'r teithiwr i'r cerbyd a'u tynnu o'r cerbyd
- Llwytho'r gadair olwyn i'r cerbyd a'i thynnu o'r cerbyd os nad yw'r teithiwr yn dymuno aros yn y gadair olwyn.
Wrth archebu cerbyd sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn, cynghorir y cyhoedd i wirio gyda'r cwmni bod modd i'r cerbyd gludo'r math hwnnw o gadair olwyn.
Trwyddedu a Hawlenni
Pa drwyddedau sydd ei angen arnoch i fasnachu yn yr awyr agored?
Cartrefi symudol – Trwydded safle preswyl
Hawlenni Amgylcheddol
Polisi trwyddedu
Tacsis a cherbydau hurio preifat
- Trwydded yrru ddeuol
- Trwydded cerbydau hacnai
- Trwydded gweithredwr hurio preifat
- Trwydded cerbyd hurio preifat
- Ffïoedd tacsis a cherbydau hurio preifat
- Cerbydau sy'n Hygyrch i Gadeiriau Olwyn
Trwydded anifeiliaid
Trwydded busnesau rhyw
Trwydded casgliadau elusennol
Trwydded delwyr metel sgrap
Gwelyau haul
Trwydded masnachu ar y stryd
Trwydded safle carafanau gwyliau
Trwyddedau alcohol ac adloniant
- Tystysgrif safle clwb
- Trwydded safle
- Trwyddedau personol
- Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro
- Gwneud sylwadau ar geisiadau am drwydded
- Gwneud cwyn am safle trwyddedig
- Adnewyddu / canslo eich trwydded
- Ffioedd blynyddol
- Gwneud cais am adolygiad
Trwyddedau hapchwarae
- Trwydded loteri
- Trwyddedau safleoedd hapchwarae
- Hawlenni hapchwarae
- Hysbysiadau defnydd dros dro ac achlysurol
Trwydded caffi stryd
Trwydded Sgaffaldiau
Trwydded palis / ffens
Trwydded Sgip
Mwy ynghylch Trwyddedu a Hawlenni