Trwydded Sgip
Diweddarwyd y dudalen ar: 14/08/2023
Os oes angen i sgipiau adeiladwyr gael eu gosod ar y briffordd, ffordd, palmant neu ar ymyl y ffordd, mae angen cael trwydded. Mae hyn yn ofyniad yn Neddf Priffyrdd 1980. Mae gennym hawl i bennu amodau ynghylch lleoliad unrhyw sgipiau adeiladwyr. Nid cyfrifoldeb y cwsmer (na'i gontractwr) yw gwneud cais am y drwydded hon. Cyfrifoldeb y gweithredydd sgipiau yw sicrhau bod cais am hawlen wedi'i gyflwyno a'i ganiatáu. Rhoddir hawlenni o'r fath i weithredwyr sgipiau cofrestredig sydd â’r yswiriant atebolrwydd cyhoeddus gofynnol yn unig. Os oes angen sgip arnoch, cysylltwch â gweithredydd sgipiau sydd â’r caniatâd angenrheidiol.
Bydd angen ichi lenwi'r ffurflen cais am sgip. Byddwch yn cael anfoneb i dalu am y ffioedd. Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch:
- Lleoliad y sgip
- Prawf o'ch yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, ac mae'n rhaid iddo fod yn isafswm o £10 miliwn.
- Cyfnod y drwydded
- Prawf bod gennych drwydded cludwyr gwastraff.
Gofynnir ichi ganiatáu 5 diwrnod gwaith o rybudd ar gyfer cymeradwyo cais am sgip. Gallwch gyflwyno eich ffurflen gais gyflawn drwy anfon e-bost i gofalstrydoedd@sirgar.gov.uk
Y ffi sy'n daladwy ar gyfer gwneud cais am drwydded sgip yw £68 y mis neu ran o hynny (yn ddilys tan 31 Mawrth 2026).
Os bydd eich trwydded yn dod i ben, codir tâl adnewyddu o £195 y mis neu ran o hynny (yn ddilys tan 31 Mawrth 2026).
Anfonebir yr holl geisiadau am sgip i'r contractwr sgip bob mis. Sylwch fod ein ffioedd trwyddedau yn cael eu hadolygu bob mis Ebrill a bydd unrhyw geisiadau a gyflwynir ar ôl 1 Ebrill yn destun unrhyw ffioedd newydd.
Trwyddedu a Hawlenni
Pa drwyddedau sydd ei angen arnoch i fasnachu yn yr awyr agored?
Trwyddedau alcohol ac adloniant
- Tystysgrif safle clwb
- Trwydded safle
- Trwyddedau personol
- Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro
- Gwneud sylwadau ar geisiadau am drwydded
- Gwneud cwyn am safle trwyddedig
- Adnewyddu / canslo eich trwydded
- Ffioedd blynyddol
- Gwneud cais am adolygiad
Trwydded casgliadau elusennol
Hawlenni Amgylcheddol
Trwyddedau hapchwarae
- Trwydded loteri
- Trwyddedau safleoedd hapchwarae
- Hawlenni hapchwarae
- Hysbysiadau defnydd dros dro ac achlysurol