Gwneud sylwadau ar geisiadau am drwydded

Diweddarwyd y dudalen ar: 27/09/2024

Gall unrhyw un neu unrhyw fusnes anfon sylwadau atom mewn perthynas â cheisiadau am drwydded safle neu amrywiadau, adolygiadau trwydded safle, ceisiadau am dystysgrif safle clwb ac adolygiadau o dystysgrifau safle clwb.

Gall y sylwadau fod yn gadarnhaol neu'n negyddol, ond byddant ond yn cael eu hystyried yn berthnasol os oes cysylltiad amlwg rhyngddynt ag un neu fwy o'r amcanion trwyddedu. Yn ogystal, byddwn yn gwrthod sylwadau sy'n cael eu hystyried yn wamal neu'n flinderus.

Gellir ond ystyried sylwadau os cânt eu cyflwyno yn ysgrifenedig o fewn y cyfnod ymgynghori perthnasol.

GWELD Y GOFRESTR O GEISIADAU CYFREDOL