Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro

Diweddarwyd y dudalen ar: 15/02/2024

Bydd angen i chi gyflwyno Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro (TEN) os byddwch yn dymuno cynnal gweithgareddau trwyddedadwy yn gyfreithlon ar safle nad oes ganddo drwydded safle neu dystysgrif safle clwb; neu os nad yw'r gweithgaredd neu'r amserau pryd y cynhelir ef wedi'u nodi ar drwydded safle neu dystysgrif safle clwb bresennol.

Y gweithgareddau trwyddedadwy (yn amodol ar rai eithriadau) yw:

  • Gwerthu a chyflenwi alcohol
  • Adloniant wedi’i reoleiddio (h.y. cerddoriaeth, canu neu ddawnsio)
  • Darparu lluniaeth yn hwyr y nos

Mae rhai cyfyngiadau ar ddigwyddiadau a gynhelir o dan TEN:

  • Ni chaiff mwy na 499 o bobl fod ar y safle ar unrhyw adeg.
  • Caiff pob digwyddiad TEN bara hyd at 168 o oriau.
  • Ni chaniateir cynnal mwy na 15 o ddigwyddiadau TEN ar safle bob blwyddyn.
  • Ni chaniateir cael TEN ar gyfer mwy na 21 diwrnod y flwyddyn ar unrhyw safle.
  • Rhaid cael o leiaf 24 awr rhwng pob digwyddiad ar unrhyw safle.
  • Gellir cyflwyno sawl TEN ar yr un pryd ond mae angen TEN ar wahân ar gyfer pob digwyddiad ac mae ffi'n daladwy ar gyfer pob un yn unigol. Ni chaniateir mynd dros y terfynau uchod.
  • Rhaid ichi fod yn 18 oed neu'n hŷn i gyflwyno TEN a chewch gyflwyno uchafswm o bump ohonynt y flwyddyn. Os ydych yn ddeiliad trwydded bersonol, cewch gyflwyno uchafswm o 50 TEN y flwyddyn.

Gwneud cais am TEN

Os bydd yr hysbysiad yn ymwneud â strwythur dros dro megis pabell fawr neu lwyfan neu os bydd yr hysbysiad yn ymwneud â rhan o safle neu ddigwyddiad mwy, gofynnir i'r trefnwyr atodi darlun llinell i ddangos ardal y TEN yn glir.

Rhaid i ni, yr heddlu a gwasanaethau iechyd y cyhoedd dderbyn hysbysiadau o leiaf 10 diwrnod gwaith clir cyn i'r digwyddiad gael ei gynnal er mwyn inni gyflwyno TEN Safonol. Gellir derbyn hysbysiadau hyd at bum diwrnod gwaith clir cyn y digwyddiad, ond bydd y rhain yn cael eu hystyried fel TEN Hwyr.

Rydym yn eich cynghori i gyflwyno eich hysbysiad i ni, i'r heddlu ac i wasanaethau iechyd y cyhoedd hyd at dri mis cyn y digwyddiad. Mae hyn yn rhoi digon o amser i ateb unrhyw ymholiadau a allai godi yn ogystal ag osgoi'r posibilrwydd o fethu'r dyddiadau cau statudol ar gyfer cyflwyno TEN.

Cyn cyflwyno eich cais, rydym yn cynghori i ddarllen ein nodiadau cyfarwyddyd llawn sydd â gwybodaeth am y broses ymgeisio, ffioedd, cyfeiriadau perthnasol, cyfyngiadau defnydd a phwy sy'n gallu gwrthwynebu TEN.

Ni fydd y wybodaeth a rowch inni yng nghyswllt eich hysbysiad digwyddiad dros dro yn cael ei defnyddio ond er mwyn awdurdodi'r digwyddiad. Fodd bynnag, byddwn yn rhannu manylion y digwyddiad, gan gynnwys eich manylion cyswllt a'ch cyfeiriad, gydag adrannau perthnasol y cyngor, megis Safonau Masnach, Gwasanaethau Plant a gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd, yn ogystal â'r awdurdodau cyfrifol eraill, gan gynnwys y frigâd dân a'r bwrdd iechyd. Bydd hyn yn eu galluogi i'ch helpu i fodloni'r gofynion statudol, sy’n cynnwys diogelwch tân, iechyd a diogelwch a diogelwch plant.

Gallwch wneud cais am drwydded ar wefan gov.uk neu gallwch lawrlwytho'r dogfennau perthnasol a'u dychwelyd atom ni.

Ar hyn o bryd fe’ch cynghorir i gyflwyno Asesiad Risg Covid a Chynllun Rheoli Digwyddiad gyda’ch Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro.

Gwneud cais am hysbysiad digwyddiad dros dro