Trwydded palis / ffens
Os ydych yn bwriadu gosod trwydded palis/ffens ar unrhyw ran o briffordd gyhoeddus, bydd angen trwydded arnoch gennym.
Fydd angen cwbwlhau ffurflen cais trwydded palis/ffens. Byddwch yn derbyn anfoneb am y ffioedd.
I wneud cais am drwydded balis/ffens, fydd angen:
- Lleoliad y balis/ffens
- Faint o amser rydych chi angen trwydded
- Copi o'ch yswiriant atebolrwydd cyhoeddus y mae'n rhaid iddo fod o leiaf £ 5 miliwn
Gellir cyflwyno'ch ffurflen gais wedi'i chwblhau trwy e-bost at streetcare@sirgar.gov.uk.
Y ffi sy'n daladwy am wneud cais am drwydded balis/ffens yw £ 77.00 y mis ar hyn o bryd (yn ddilys tan 31 Mawrth 2020).
Os bydd eich trwydded yn dod i ben, codir tâl adnewyddu o £ 136 y mis i chi (dilys tan 31/03/2020).
Os ydych chi'n gwybod y bydd y gwaith yn cymryd mwy na 1 mis calendr, gallwch wneud cais am gyfnod hwy ar y cais cychwynnol. Gall hyn weithio allan yn rhatach na gwneud cais am estyniad bob mis.
Anfonebir yr holl anfonebau palis/ffens i'r contractwr bob mis.
Sylwch fod ein ffioedd trwydded yn destun adolygiad bob mis Ebrill a bydd trwyddedau a gyflwynir ar ôl 1 Ebrill yn ddarostyngedig i unrhyw ffioedd newydd.
Mae cais nad yw'n frys yn cymryd o leiaf 5 diwrnod gwaith i'w brosesu.
Gellir cyflwyno cais argyfwng os oes perygl i'r cyhoedd. Yn y sefyllfa hon, bydd angen i'ch contractwr gyflwyno'r ffurflen gais ac yna mynd i'r safle i ddechrau codi'r palis/ffens.
Trwyddedu a Hawlenni
Cartrefi symudol – Trwydded safle preswyl
Hawlenni Amgylcheddol
Polisi trwyddedu
Tacsis a cherbydau hurio preifat
- Trwydded yrru ddeuol
- Trwydded cerbydau hacnai
- Gweithredwr hurio preifat
- Trwydded cerbyd hurio preifat
- Ffïoedd tacsis a cherbydau hurio preifat
- Cerbydau sy'n Hygyrch i Gadeiriau Olwyn
Trwydded anifeiliaid
Trwydded busnesau rhyw
Trwydded casgliadau elusennol
Trwydded delwyr metel sgrap
Trwydded gwely haul
Trwydded masnachu ar y stryd
Trwydded safle carafanau gwyliau
Trwyddedau alcohol ac adloniant
Mwy ynghylch Trwyddedu a Hawlenni