Trwydded yrru ddeuol

Er mwyn gyrru cerbyd hacnai trwyddedig (tacsi) neu gerbyd hurio preifat, mae'n rhaid eich bod yn gyntaf wedi derbyn trwydded yrru ar gyfer cerbyd hacnai neu gerbyd hurio preifat gennym ni.

Ni fydd cofnod troseddol o reidrwydd yn eich atal rhag cael trwydded oni bai ein bod yn barnu nad ydych yn berson addas a phriodol i feddu ar y cyfryw drwydded. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein polisi ar gollfarnau.

Os ydych yn gwneud cais am drwydded yrru ddeuol mae'n rhaid ichi ddatgelu'r holl gollfarnau a rhybuddiadau inni, gan fod yr alwedigaeth hon wedi'i heithrio o ddarpariaethau Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974.

Bydd rhai ceisiadau, gan gynnwys y rhai sy'n datgelu collfarnau na fyddent wedi darfod o dan y Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr neu gollfarnau difrifol a all, yn ein barn ni, olygu eich bod yn anaddas i feddu ar drwydded yrru, yn cael eu cyfeirio at ein pwyllgor trwyddedu i wneud penderfyniad yn ei gylch.

Os oes gennych gollfarnau fe'ch cynghorir i gysylltu â ni cyn cyflwyno eich cais.

Lawrlwythwch ein mewn perthynas ag euogfarnau perthnasol (.pdf)

Mae'n rhaid ichi fynd â'ch cais i un o'n canolfannau gwasanaeth cwsmeriaid. Bydd angen ichi ddarparu'r eitemau canlynol:

  • Ffurflen gais (gyda'r holl adrannau wedi'u cwblhau)
  • Un lun pasbort
  • Tystysgrif feddygol y Cyngor gan eich Meddyg Teulu eich hun
  • Trwydded yrru gyfredol lân
  • Y ffi ar gyfer y cais

Unwaith y byddwn wedi derbyn eich cais wedi'i gwblhau, anfonir dolen atoch i wneud cais am eich Tystysgrif DBS. Os ydych chi wedi treulio 6 mis neu fwy (boed yn barhaus neu'n gyfan gwbl), tra'n 18 oed   neu'n hŷn yn byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig, dylai tystiolaeth o wiriad cofnod troseddol o'r wlad/gwledydd sy'n cwmpasu'r cyfnod perthnasol fod yn ofynnol (Tystysgrif Ymddygiad Da). Gwiriadau cofnodion troseddol ar gyfer ymgeiswyr tramor - GOV.UK. Pan na all ymgeisydd ddarparu Tystysgrif Ymddygiad Da foddhaol, bydd y cais yn anghyflawn a chaiff ei wrthod.

Noder: Gall ceisiadau gymryd hyd at 6 mis i'w prosesu

Lawrlwythwch y ffurflen gais

Mae dyletswydd arnom, fel corff cyhoeddus, i ddiogelu'r cyllid cyhoeddus a weinyddir gennym ac i'r diben hwn cawn ddefnyddio'r wybodaeth a ddarperir inni ar ffurflenni cais i atal a darganfod twyll.  

Gallwn hefyd rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus at y dibenion hyn.