Trwydded Sgaffaldiau
Mae angen cael trwydded sgaffaldiau i godi sgaffaldiau ar y Priffyrdd o dan ddarpariaethau Adran 169 o Ddeddf Priffyrdd 1980.
Gweler y manylion isod ynghylch sut i wneud cais am drwydded sgaffaldiau.
Wrth gyflawni unrhyw waith adeiladu, cynnal a chadw neu waredu unrhyw ran o eiddo lle bydd angen sgaffaldiau, tŵr symudol, ffensys neu balisiau ar y Briffordd, bydd angen i chi gael trwydded gan yr Awdurdod Priffyrdd.
Dim ond contractwyr cymwys sydd yn gallu codi sgaffaldiau ar y Priffyrdd, ac mae'n rhaid bod ganddynt y garden Goruchwylydd a Gweithredydd Gwasanaethau Stryd briodol. Yn ogystal â hyn, mae'n rhaid bod ganddynt yswiriant atebolrwydd cyhoeddus am £5 miliwn.
Y ffi sy'n daladwy am wneud cais am drwydded sgaffald yw £91 y mis neu ran o hynny (yn ddilys tan 31 Mawrth 2024).
Os bydd eich trwydded yn dod i ben, codir tâl adnewyddu o £161 y mis neu ran o hynny (yn ddilys tan 31 Mawrth 2024).
Anfonebir yr holl anfonebau sgaffaldiau i'r contractwr sgaffaldiau bob mis.
Sylwch fod ein ffioedd trwydded yn destun adolygiad bob mis Ebrill a bydd trwyddedau a gyflwynir ar ôl 1 Ebrill yn ddarostyngedig i unrhyw ffioedd newydd.
Mae caniatâd yn amodol ar amodau a allai ymwneud â:
- lleoliad y sgaffaldiau
- y lle sydd ar gael ar y llwybr troed
- a mynediad i gerddwyr
Cliciwch yma i weld holl amodau'r drwydded. Gallai amodau ychwanegol fod yn berthnasol ar gyfer ceisiadau unigol
Fydd angen cwbwlhau ffurflen cais trwydded sgaffaldiau. Byddwch yn derbyn anfoneb am y ffioedd.
I wneud cais am drwydded sgaffaldiau, fydd angen:
- Prawf o'ch cerdyn goruchwyliwr gwaith stryd a gweithredol
- Prawf o'ch yswiriant atebolrwydd cyhoeddus y mae'n rhaid iddo fod o leiaf £ 5 miliwn
- Faint o amser rydych chi angen trwydded
Mae cais yn cymryd o leiaf 5 diwrnod gwaith i'w brosesu.
Gellir cyflwyno cais argyfwng os oes perygl i'r cyhoedd. Yn y sefyllfa hon, bydd angen i'ch sgaffaldiwr gyflwyno'r ffurflen gais ac yna mynd i'r safle i ddechrau codi'r sgaffaldiau.
Gellir anfon eich ffurflen gais trwy e-bost i: streetcare@sirgar.gov.uk.
Mae cais nad yw'n frys yn cymryd o leiaf 5 diwrnod gwaith i'w brosesu.
Gellir cyflwyno cais argyfwng os oes perygl i'r cyhoedd. Yn y sefyllfa hon, bydd angen i'ch sgaffaldiwr gyflwyno'r ffurflen gais ac yna mynd i'r safle i ddechrau codi'r sgaffaldiau.
Trwyddedu a Hawlenni
Pa drwyddedau sydd ei angen arnoch i fasnachu yn yr awyr agored?
Cartrefi symudol – Trwydded safle preswyl
Hawlenni Amgylcheddol
Polisi trwyddedu
Tacsis a cherbydau hurio preifat
- Trwydded yrru ddeuol
- Trwydded cerbydau hacnai
- Trwydded gweithredwr hurio preifat
- Trwydded cerbyd hurio preifat
- Ffïoedd tacsis a cherbydau hurio preifat
- Cerbydau sy'n Hygyrch i Gadeiriau Olwyn
Trwydded anifeiliaid
Trwydded busnesau rhyw
Trwydded casgliadau elusennol
Trwydded delwyr metel sgrap
Gwelyau haul
Trwydded masnachu ar y stryd
Trwydded safle carafanau gwyliau
Trwyddedau alcohol ac adloniant
- Tystysgrif safle clwb
- Trwydded safle
- Trwyddedau personol
- Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro
- Gwneud sylwadau ar geisiadau am drwydded
- Gwneud cwyn am safle trwyddedig
- Adnewyddu / canslo eich trwydded
- Ffioedd blynyddol
- Gwneud cais am adolygiad
Trwyddedau hapchwarae
- Trwydded loteri
- Trwyddedau safleoedd hapchwarae
- Hawlenni hapchwarae
- Hysbysiadau defnydd dros dro ac achlysurol
Trwydded caffi stryd
Trwydded Sgaffaldiau
Trwydded palis / ffens
Trwydded Sgip
Mwy ynghylch Trwyddedu a Hawlenni