Lanternau Awyr / balwnau

Diweddarwyd y dudalen ar: 04/12/2023

Mae gan lanternau awyr fframwaith o wifrau neu gansenni bambŵ sydd wedi ei orchuddio gan bapur, ynghyd â ffynhonnell fflam agored. Mae gwres y fflam yn codi'r lanternau fry i'r awyr lle maent yn gallu teithio am filltiroedd lawer o'r man lle cawsant eu gollwng.

Fodd bynnag ystyrir bod y lanternau hyn yn berygl tân a'u bod yn gallu achosi niwed difrifol a/neu beri bod bywydau'n cael eu colli ynghyd ag achosi difrod i eiddo. Yn ogystal maent yn gallu achosi niwed i fywyd gwyllt, i anifeiliaid fferm ac i anifeiliaid eraill gan beri dioddefaint a marwolaeth araf a phoenus yn y pen draw.

Felly rydym wedi gwahardd defnyddio lanternau awyr ar holl dir y Cyngor. Yn ogystal rydym wedi gwahardd gwerthu lanternau awyr mewn mannau sydd o dan ein rheolaeth. Rydym yn annog pobl yn daer i beidio â gollwng llu o lanternau Tsieineaidd gyda'i gilydd, ac i ddefnyddio dulliau eraill o ddathlu.

Gollwng balwnau i'r awyr

Yn ogystal â bod yn sbwriel, mae balwnau a thameidiau bychain o falwnau yn berygl difrifol i fywyd gwyllt. Yn aml mae morfilod, crwbanod y môr a dolffiniaid yn camgymryd balwnau am fwyd, ac ar ôl cael eu llyncu gallant dagu'r perfeddion gan beri bod yr anifail yn llwgu i farwolaeth yn araf. Hefyd mae arolygon bywyd gwyllt wedi dod o hyd i adar sydd wedi cael eu dal yn y rhuban a'r llinyn sydd ynghlwm wrth falwnau, gan gyfyngu ar eu gallu i symud a bwydo.

Rydym yn annog pobl yn daer i beidio â gollwng llu o falwnau gyda'i gilydd a dylid yn hytrach gynnig gweithgareddau eraill megis torri balwnau, dyfalu nifer y balwnau, rasys cyfnewid balwnau neu greu cerfluniau â balwnau.

Dylai balwnau a roddwyd i ffwrdd mewn niferoedd mawr fod:

  • Yn cael eu llenwi ag aer ac nid heliwm, i’w hatal rhag teithio’n bell os cânt eu gollwng i'r awyr yn ddamweiniol
  • Wedi eu gwneud o latecs ac nid o ffoil
  • Yn cael eu clymu â llinyn cotwm ac nid rhuban plastig
  • Yn cael eu clymu’n ddiogel pan fyddant yn yr awyr agored
  • Yn cael eu clymu â llaw ac nid trwy ddefnyddio falfiau plastig

Os ydych yn gollwng mwy na 5,000 o falwnau i'r awyr, mae’n rhaid ichi gyflwyno cais ysgrifenedig am ganiatâd i’r Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) o leiaf 28 diwrnod cyn eu gollwng gan fod balwnau’n gallu tarfu ar draffig awyr. Gallwch gael ffurflen gais drwy fynd i wefan y CAA neu drwy ffonio 020 7453 6599. Os bwriedir rhyddhau llai na hynny o falwnau dylid rhoi gwybod i’r heddlu lleol neu’r maes awyr lleol (os bwriedir eu gollwng i'r awyr o fewn cylch o 5 milltir i faes awyr).