Tir halogedig

Diweddarwyd y dudalen ar: 04/12/2023

Diffinnir Tir Halogedig o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, Adran 78A(2) fel a ganlyn:

‘Unrhyw dir sydd, ym marn yr awdurdod lleol y mae wedi'i leoli yn ei ardal, yn y fath gyflwr, yn sgil sylweddau yn, ar neu o dan y tir, fel bod

  • niwed sylweddol yn cael ei achosi neu bod posibilrwydd sylweddol yr achosir niwed o'r fath; neu
  • bod llygru dyfroedd a reolir yn cael ei achosi, neu'n debygol o gael ei achosi.’

Os yw tir i gael ei ddynodi fel tir "halogedig", rhaid i ffynhonnell halogi fod yn bresennol, yn ogystal â derbynnydd y gellid ei niweidio, a llwybr dichonadwy sy'n gallu cysylltu'r ffynhonnell a'r derbynnydd. Enw arall ar hyn yw'r model ffynhonnell / llwybr / derbynnydd, lle dylid sefydlu perthynas glir rhwng pob un o'r tri. Ni ellir dynodi tir fel tir "halogedig" os na fydd pob un o'r tri yn bresennol.

Mae gan Sir Gaerfyrddin etifeddiaeth ddiwydiannol gyfoethog ac amrywiol, yn cynnwys ystod eang o ddiwydiannau megis mwyngloddio, gweithgynhyrchu tunplat, gweithfeydd nwy, tanerdai ac ati. Gall pob un o'r prosesau hyn fod wedi achosi halogi'r tir, y dyfroedd daear neu dderbynyddion eraill sensitif. Rydym wedi nodi nifer o safleoedd lle gallai halogiad fod yn parhau, neu lle nad oes tystiolaeth i gadarnhau bod camau adfer digonol wedi digwydd. Yn yr ardaloedd hyn, gall ymchwiliad pellach fod yn angenrheidiol. Paratowyd Strategaeth Archwilio Tir Halogedig, sy'n cael ei hadolygu a'i diweddaru ar hyn o bryd a bydd ar gael yma cyn bo hir.

Mae'r gyfraith yn gofyn bod pob Awdurdod Lleol yn cadw cofrestr o'r safleoedd y mae wedi'u dynodi fel 'tir halogedig' ac mae'n rhaid i'r gofrestr hon gynnwys manylion am y safle ac unrhyw hysbysiadau neu ddatganiadau y bu'n destun iddynt.

Ar hyn o bryd, nid oes dim safleoedd yn Sir Gaerfyrddin y pennwyd eu bod yn dir halogedig. Bu nifer o safleoedd yn Sir Gaerfyrddin yn destun ymchwiliad, ac yna cawsant eu hadfer yn wirfoddol. Cyflawnwyd y gwaith adfer o bosibl gan berchnogion aelwydydd/tir preifat, neu gan ddatblygwyr y tir.

Y llygrwr gwreiddiol (a elwir yn bersonau Dosbarth A) ddylai bob amser fod yn gyfrifol am gostau glanhau tir yr effeithiwyd arno gan halogi (yr enw ar hyn yw adfer). Mae hyn yn dilyn egwyddor "y llygrwr sy'n talu". Lle na ellir cael hyd i'r llygrwr gwreiddiol, efallai oherwydd ei fod wedi marw, neu nad yw'r cwmni'n bodoli bellach, perchennog / meddiannwr cyfredol y tir fydd fel arfer yn gyfrifol (personau Dosbarth B).

Lle bo hynny'n bosibl, dylid adfer tir a all fod wedi’i halogi yn ystod prosiectau datblygu neu adfywio. Byddwn ni'n gweithio'n agos gyda chydweithwyr mewn adrannau eraill o'r Cyngor er mwyn ceisio sicrhau bod datblygwyr yn cael eu gwneud yn ymwybodol o'r camau mae'n rhaid eu cymryd wrth gwblhau ymchwiliad. Mae gwybodaeth fanwl am y Gweithdrefnau Enghreifftiol ar gyfer Rheoli Halogiad Tir - CLR11 ar gael ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.