Dŵr yfed
Diweddarwyd y dudalen ar: 04/12/2023
Mae dŵr yfed yn cynnwys y prif gyflenwad dŵr, a hefyd gyflenwadau dŵr preifat. Cyfrifoldeb Dŵr Cymru Welsh Water yw'r prif gyflenwad dŵr.
Rydym yn monitro ansawdd y dŵr o gyflenwadau preifat megis:
- Ffynhonnau
- Tyllau turio
- Nentydd
- Tarddelli
- Afonydd
Gallai cyflenwad dŵr preifat wasanaethu un eiddo yn unig, neu gallai fod yn gyflenwad mawr gyda rhwydwaith eang o bibau sy'n cyflenwi dŵr i lawer o eiddo. Er mwyn sicrhau bod dŵr a ddefnyddir yn y cartref ac ar gyfer cynhyrchu bwyd o'r ansawdd uchel angenrheidiol i amddiffyn iechyd cyhoeddus, mae'r Llywodraeth wedi pennu safonau ansawdd cyfreithiol ar gyfer yr holl ddŵr a ddefnyddir i yfed, golchi a choginio, neu a ddefnyddir mewn busnesau sy'n cynhyrchu bwyd neu ddiod. Yr un safonau yw'r rhain ag a bennir ar gyfer y prif gyflenwad dŵr.
Mae Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017 yn gosod dyletswydd arnom ni i samplo ac asesu risgiau pob cyflenwad dŵr preifat yn ein hardal o fewn 5 mlynedd, ac eithrio cyflenwadau sy'n gwasanaethu un breswylfa yn unig. Pennir amlder y samplo a'r asesu risg yn y rheoliadau.
Taliadau
Mae'r ddeddfwriaeth wedi cyflwyno system o godi tâl am fonitro cyflenwadau dŵr preifat. Yn Sir Gaerfyrddin, mae'r taliadau isod ar gyfer samplo a dadansoddi cyflenwad dŵr preifat, asesu risg ac ymchwilio.
Math o gyflenwad | Asesiad risg | Ymweliad | Gwirio sampl | Cyfanswm: Ymweliad a'r samplo |
---|---|---|---|---|
Cyflenwadau mawr/masnachol | Cyfradd yr awr £75 | £100 | £65 + £15.24 am sampl microfioleg | £180.24 + TAW |
Cyflenwadau bach | Cyfradd yr awr £75 | £75 | £25 | £100 + TAW |
Cyflenwadau domestig sengl | Cyfradd yr awr £75 – ar gais yn unig | £50 | £25 | £75 + TAW |
Gellir gwneud cais am samplo a dadansoddi cyflenwadau nad ydynt yn cael eu cwmpasu gan y rheoliadau, a bydd yr un taliadau'n berthnasol.
Iechyd yr Amgylchedd
Mwy ynghylch Iechyd yr Amgylchedd