Niwsans

Diweddarwyd y dudalen ar: 04/12/2023

Rydym ni i gyd yn profi niwsans gan amrywiaeth o ffynonellau o bryd i'w gilydd, ond pan fydd niwsans yn digwydd yn gyson ac yn effeithio ar eich bywyd pob dydd, gallwn ni helpu o bosib. Os bydd niwsans yn dechrau bod yn niweidiol i'ch iechyd, neu os bydd yn effeithio ar y ffordd yr ydych yn gallu mwynhau eich cartref, gallwn ni fod mewn sefyllfa o bosib i gyflwyno hysbysiad i'r sawl sy'n gyfrifol a fydd yn golygu y bydd yn rhaid iddo/iddi weithredu. Os na fydd yn gweithredu, gallai gael ei (h)erlyn.

Dŵr Cymru sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r mwyafrif o garthffosydd preifat a'r draeniau ochrol.

Mae draeniau preifat sy'n gwasanaethu un eiddo yn unig ac sy'n gorwedd oddi mewn i gwrtil yr eiddo hwnnw yn dal yn gyfrifoldeb i'r perchennog preifat, fel y mae carthbyllau a thanciau septig.

Gellir cynhyrchu llwch yn sgil amrywiaeth o weithgareddau megis safleoedd adeiladu/dymchwel a phrosesau diwydiannol a all achosi niwsans statudol o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

Mae dyletswydd arnom i ymchwilio i gwynion ynghylch golau artiffisial a all fod yn achosi niwsans. Lluniwyd y ddeddfwriaeth i fynd i'r afael â niwsans golau artiffisial gormodol sy'n deillio o safle, ac sy'n effeithio ar ddefnydd a mwynhad rhywun arall o'u heiddo.

Nid yw'r ddeddfwriaeth yn berthnasol yn achos golau artiffisial sy'n deillio o'r safleoedd canlynol sydd angen lefelau uchel o olau am resymau diogelwch a/neu ddiogeledd:

  • Meysydd awyr
  • Canolfannau gweithredu cerbydau gwasanaeth cyhoeddus
  • Porthladdoedd
  • Canolfannau gweithredu cerbydau nwyddau
  • Safleoedd rheilffyrdd
  • Goleudai
  • Safleoedd tramffyrdd
  • Carchardai
  • Gorsafoedd bysiau a chyfleusterau cysylltiedig
  • Safleoedd a feddiannir at ddibenion amddiffyn

Er nad yw goleuadau stryd wedi'u heithrio'n benodol, maent yn annhebygol o achosi niwsans golau artiffisial gan nad ydynt fel arfer ar safle penodol, fel y diffiniwyd yn y ddeddfwriaeth.

Mae arogleuon annifyr yn amharu ar y mwyafrif ohonom rywbryd neu'i gilydd. Os na fydd yr arogl yn parhau am gyfnod estynedig neu os nad yw'n rhy annifyr, gallwn ymdopi fel arfer. Bydd niwsans statudol yn digwydd yn achos unrhyw fygdarth neu arogl o safle sy'n peryglu iechyd, neu sy'n niwsans.

Dylech fod yn ymwybodol, os ydych yn byw yn ymyl gwaith carthffosiaeth, tir ffermio y caiff slyri ei ledaenu arno, tomen sbwriel neu safle tebyg, y byddwch o bosibl yn gallu arogli'r gweithgareddau hynny o bryd i'w gilydd. Y cyfan y gallwn ei wneud o dan yr amgylchiadau hynny yw gofyn bod y gweithredydd yn gwneud popeth rhesymol i gyfyngu gymaint â phosibl ar yr arogleuon hynny.

Nid oes cyfreithiau penodol yn erbyn coelcerthi. Fodd bynnag, os yw niwsans statudol yn cael ei achosi gan goelcerthi, gellir cymryd camau cyfreithiol i atal y cyfryw niwsans o dan adran 80 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

Er mwyn i goelcerth gael ei chyfrif yn niwsans, byddai'n rhaid i'r broblem godi'n rheolaidd, ac amharu'n sylweddol ar eich lles, cysur neu fwynhad o'ch eiddo.

Gall mwg ac arogl coelcerth godi gwrychyn cymdogion, eu hatal rhag mwynhau'r ardd, a golygu na all pobl agor eu ffenestri na rhoi'r golch ar y lein. Gall mwg o goelcerth hefyd achosi perygl drwy effeithio ar allu pobl i weld ar ffyrdd gerllaw.

Gall tanau ymledu'n gyflym, gan ddifetha planhigion, coed, ffensys ac adeiladau. Gall poteli a chaniau ffrwydro pan gânt eu llosgi. Gall creaduriaid gwyllt neu hyd yn oed anifeiliaid anwes ddefnyddio pentyrrau o wastraff gardd i gysgodi, felly cofiwch wirio cyn cynnau coelcerth.

Y ffordd orau o waredu gwastraff gan gynnwys sbwriel o'r ardd yw ei gompostio neu fynd ag ef i'ch Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref leol. Os dewiswch ei waredu trwy ei losgi yn lle hynny, dilynwch y canllawiau hyn:

  • Llosgwch ddeunydd sych yn unig
  • Peidiwch byth â llosgi sbwriel o'r cartref, teiars rwber, nac unrhyw beth sy'n cynnwys plastig, ewyn neu baent
  • Peidiwch byth â defnyddio hen olew o injan, gwirod methyl na phetrol i gynnau'r tân nac i roi hwb iddo
  • Peidiwch â chynnau tân mewn tywydd anaddas - bydd y mwg yn aros yn yr aer ar ddiwrnodau llaith, llonydd, a chyda'r hwyr. Os yw'n wyntog, gellir chwythu mwg i erddi cymdogion ac ar draws ffyrdd
  • Peidiwch â llosgi ar y penwythnos ac ar wyliau banc, pan fydd pobl am fwynhau eu gerddi
  • Peidiwch â llosgi pan fydd y llygredd aer yn eich ardal yn uchel neu'n uchel iawn
  • Peidiwch byth â gadael tân heb neb yn gofalu amdano na'i adael yn mudlosgi - taflwch ddŵr drosto os bydd angen

Eiddo diwydiannol:
Mae'n drosedd achosi neu ganiatáu allyriadau mwg tywyll o safleoedd diwydiannol neu fasnachol o dan Ddeddf Aer Glân 1993.