Rhoi gwybod am ffensys / rhwystrau wedi difrodi

Diweddarwyd y dudalen ar: 23/02/2024

Rydym yn defnyddio rhwystrau a ffensys i amddiffyn pob un sy’n defnyddio’r briffordd, er enghraifft:

  • cerddwyr - defnyddio rheiliau rhwng y palmant a ffyrdd
  • cerbydau modur - defnyddio rhwystrau diogelwch a llain ganol

Gall ffensys, waliau, rhwystrau a dodrefn stryd ansefydlog wrth ymyl y briffordd gyhoeddus beri risgiau i ddiogelwch y rhai sy'n defnyddio'r briffordd.

I roi gwybod am broblem yn ymwneud â ffens neu rwystr diogelwch, byddai'n hynod ddefnyddiol pe baech yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Lleoliad - enw'r stryd / cyfeiriad / tirnod a defnyddiwch y map i leoli neu ddisgrifio'r union leoliad
  • Lleoliad - a yw yng nghanol y ffordd neu'n agos at y palmant/wrth ei ymyl a pha ochr i'r ffordd?
  • Math o rwystr neu reiliau - deunydd, lliw, i gerddwyr, ochr y ffordd
  • Difrod - disgrifiad o'r difrod ac unrhyw rwystr
  • Llun - Gallwch dynnu llun ar eich ffôn clyfar pan fydd yn ddiogel gwneud hynny a'i lanlwytho

RHOI GWYBOD AM FFENSYS / RHWYSTRAU WEDI DIFRODI

I roi gwybod am argyfwng, cysylltwch â ni yn ystod oriau swyddfa ar 01267 234567 neu y tu allan i oriau swyddfa arferol ar 0300 333 2222. Yn ystod tywydd garw, efallai y bydd yn rhaid i chi ddal y llinell ar gyfer gweithredwr. Ymdrinnir â digwyddiadau mewn trefn flaenoriaeth.

Sylwer: Bydd materion a adroddir y tu allan i oriau swyddfa yn cael eu hadolygu y diwrnod gwaith nesaf, yn amodol ar yr adnoddau sydd ar gael.

Teithio, Ffyrdd a Pharcio