Sut y gallai targedau ffosffad newydd effeithio ar eich datblygiad

Y Camau Nesaf

  • Mae Grŵp Cyngor Technegol wedi cael ei sefydlu drwy gyfrwng Byrddau Rheoli Maetholion Cymru ar y cyd i adolygu tystiolaeth ac i fodelu senarios a chynigion a fydd yn cael eu cyflwyno i'r Byrddau Rheoli Maetholion i'w cymeradwyo.
  • Mae Grŵp Rhanddeiliaid Afonydd hefyd wedi cael ei sefydlu drwy Fyrddau Rheoli Maetholion Gorllewin Cymru ar y cyd. Bydd yn gweithredu fel un grŵp traws-ranbarthol. Mae aelodaeth o'r grŵp hwn yn agored, ac rydym yn croesawu pob cyfraniad i helpu i hwyluso newid adeiladol a pharhaol ar gyfer iechyd afonydd. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r grŵp hwn, cysylltwch â Swyddog Cymorth y Bwrdd Rheoli Maetholion drwy e-bost - CNDixon@sirgar.gov.uk am ragor o wybodaeth.
  • Mae'r heriau sydd ynghlwm wrth fynd i'r afael â llygredd ffosffad yn gymhleth, a does dim ateb hawdd. I gael atebion fydd yn para, bydd angen cydweithio ag Awdurdodau Lleol cyfagos, Dŵr Cymru, y sector ffermio, CNC, Llywodraeth Cymru a chyrff amgylcheddol. Bydd cydweithio a rhannu gwybodaeth â phawb yn digwydd yn rheolaidd drwy gyfarfodydd rhanbarthol a chyfarfodydd Cymru gyfan.
  • Ymchwilir i raglen Liniaru Strategol sy'n sicrhau bod cymaint o liniaru ag sy'n bosibl yn digwydd ac sy'n darparu budd hynny drwy gyfnewidfa gredyd. Bydd hyn yn cael gwared ar lawer o'r rhwystrau lliniaru y mae datblygwyr yn gorfod mynd i'r afael â nhw.

Rydym yn cydnabod bod y sefyllfa hon yn rhwystredig i ddatblygwyr - rydym am weithio gyda chi i ddod o hyd i atebion sy'n gwella cyflwr ein hafonydd, sy'n ddichonadwy ac y gellir eu rhoi ar waith yn gyflym ac yn llwyddiannus. Rydym am ymgysylltu ag amrywiaeth eang o bobl sy'n cynrychioli adeiladwyr tai, cyflogwyr, y gymuned ffermio, preswylwyr, grwpiau amgylcheddol a mwy i drafod y materion hyn.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio'n rhagweithiol i sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosibl ac i ganfod ateb i'r broblem hon. Rydym yn flaenllaw wrth gynllunio'n strategol a chydnabod yr angen am weithredu'n gyflym ac effeithiol, gan osod esiampl i weddill Cymru.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dechrau cyhoeddi eu hadolygiad o drwyddedau gwaith trin dŵr gwastraff (GTDG). Mae cyfyngiad Ff yn cael ei gymhwyso i safleoedd nad oedd ganddynt unrhyw yn y gorffennol. Gellir gosod cyfyngiadau Ff tynnach ar drwyddedau GTDG lle mae cyfyngiad eisoes yn bresennol. Efallai na fydd unrhyw newid i cyfyngiadau Ff presennol mewn rhai safleoedd. Mae'r cyfyngiad newydd o 5mg/l yn berthnasol i safleoedd sydd â llif tywydd sych o <20m3/dydd.