Sut y gallai targedau ffosffad newydd effeithio ar eich datblygiad
Yn yr adran hon
- Sut y gallai targedau ffosffad newydd effeithio ar eich datblygiad
- Pa gamau ydym wedi eu cymryd?
- Cyfrifiannell Gorllewin Cymru
- Mesurau Lliniaru
Pa gamau ydym wedi eu cymryd?
Rydym wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i amlinellu ein pryderon am yr effaith ar ddatblygu a'r angen i gael ateb cyn gynted â phosibl. Rydym hefyd wedi cymryd y camau rhagweithiol canlynol:
- Rydym wedi sefydlu Bwrdd Rheoli Maetholion ar gyfer afon Tywi. Mae'r bwrdd hwn yn gyfrifol am gynhyrchu Cynllun Rheoli Maetholion i wella cyflwr yr afon ac i hwyluso datblygiad niwtral o ran maetholion. Bydd manylion pellach am y Bwrdd hwn, gan gynnwys tudalen we sy'n arddangos diweddariadau byw, yn cael eu postio ar y dudalen hon pan fyddant ar gael. Rydym hefyd wedi helpu i sefydlu Bwrdd Rheoli Maetholion Tywi a Bwrdd Rheoli Maetholion Cleddau.
- Rydym wedi creu Cyfrifiannell Gorllewin Cymru i helpu datblygwyr i gyfrif faint o faetholion fydd eu datblygiad yn eu cynhyrchu. Dyfeisiwyd y gyfrifiannell hon gan ddefnyddio data a gasglwyd yn Sir Gaerfyrddin. Yn ymarferol, bydd y defnydd o'r gyfrifiannell yn cwmpasu tair sir (Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, a Cheredigion) a dalgylchoedd afonydd (Tywi, Cleddau a Teifi) dan oruchwyliaeth y Byrddau Rheoli Maetholion newydd.
- Rydym wedi llunio Canllawiau Lliniaru cynhwysfawr sy'n esbonio'r mathau mwyaf effeithiol o liniaru y gellid eu defnyddio yn Sir Gaerfyrddin.
- I gydnabod yr arweinyddiaeth rydym wedi'i dangos yn Sir Gaerfyrddin, cawsom wahoddiad i'r Gynhadledd Trafod Llygredd Ffosffad a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2022 gan Brif Weinidog Cymru yn y Sioe Fawr. Ym mis Mawrth 2023, amlygwyd ymhellach yn yr ail Gynhadledd Trafod Llygredd Ffosffad, a fynychwyd eto gan gynrychiolwyr o'r Awdurdod Lleol, yr angen am Gynllun Gweithredu Llygredd Afon ac am ddatblygu atebion ar frys, cynhaliwyd y trydydd uwchgynhadledd datrysiadau ffosffad ym mis Tachwedd 2023.