Sut y gallai targedau ffosffad newydd effeithio ar eich datblygiad
Mesurau Lliniaru
Mae ein Canllaw Lliniaru yn amlinellu opsiynau posibl ar gyfer lliniaru ffosffad, ac mae'n cynnwys stribedi o Dir Clustog a Gwlyptiroedd. Bydd angen i fesurau o'r fath adlewyrchu amgylchiadau safle-benodol.
Mae'n rhaid i unrhyw fesurau lliniaru a fwriedir i osgoi neu liniaru effeithiau ffosfforws posibl ddangos eu bod yn seiliedig ar y 'dystiolaeth orau sydd ar gael', yn effeithiol 'y tu hwnt i amheuaeth resymol', wedi'u seilio ar amcangyfrifon 'rhagofalus', ac yn rhai y gellir eu sicrhau 'am byth' (80-125 mlynedd).
Rhaid i'r mesurau arfaethedig gael eu gorfodi'n gyfreithiol hefyd.
Ar gyfer pob mesur, mae angen i ni dderbyn gwybodaeth:
- sy'n nodi sut byddai'r mesur(au) yn osgoi neu'n lleihau effeithiau andwyol ar yr ACA (gan ystyried am ba hyd y rhagwelir bydd yr effeithiau'n para);
- sy'n dangos sut byddai'r mesur(au) yn cyflawni niwtraliaeth o ran maetholion;
- sy'n cadarnhau sut bydd y mesur(au) yn cael eu gweithredu, a chan bwy;
- sy'n nodi sut bydd y mesur yn cael ei gynnal a phwy fydd yn gyfrifol am waith cynnal a chadw;
- sy'n dangos sut y bydd y mesur yn cael ei fonitro i sicrhau ei fod yn effeithiol.
Mae rhagor o wybodaeth am fesurau lliniaru ar gael yng Nghyngor Cynllunio Ffosffad diweddaraf CNC.