Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC)

Diweddarwyd y dudalen ar: 31/08/2023

Mae’r paratoadau ar Atodlen Codi Tâl drafft yr ASC yn cael ei dal ar encil tan gwblheir adolygiad cenedlaethol o’r ASC yng Nghymru. Pan fydd rhagor o wybodaeth ynghylch canlyniad yr adolygiad yn cael ei dderbyn fe fydd addasrwydd yr ASC yn Sir Gâr yn cael ei ail-ystyried.

Beth yw'r Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC)?

Tâl cynllunio yw'r Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC), a gyflwynwyd gan Ddeddf Cynllunio 2008 yn ddull i awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr helpu i ddarparu seilwaith i gefnogi datblygiad eu hardal. Daeth i rym ar 6 Ebrill 2010 drwy Reoliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol 2010 a nodai sut y gallai awdurdodau lleol gyflwyno yr ASC ac a newidiodd y ffordd y gellir ceisio rhwymedigaethau cynllunio drwy Gytundebau Adran 106.

Os byddwn yn dewis mabwysiadu Ardoll Seilwaith Cymunedol, yna bydd amrywiaeth o ddatblygiadau'n agored i dâl o dan yr Atodlen Codi Tâl a fydd yn nodi lefel yr Ardoll i'w chodi ar bob math o ddatblygiad y gellir codi tâl arno. O'i chyflwyno, bydd yr Ardoll yn orfodol a bydd yn cael ei chodi ar bob datblygiad newydd sy'n bodloni'r meini prawf cymhwyso. Gellir defnyddio'r arian a godir gan yr ASC i ariannu amrywiaeth eang o seilwaith y mae ei angen i gefnogi twf yn yr ardal. Gall hyn gynnwys pethau megis cyfleusterau cymunedol, addysg a gwelliannau trafnidiaeth.

Fel cam cyntaf y broses o sefydlu’r Ardoll Seilwaith Cymunedol, paratowyd Drafft Rhagarweiniol y Rhestr Codi Tâl sy’n nodi’r cyfraddau codi tâl arfaethedig ar gyfer Sir Gâr. Roedd y dogfennau canlynol yn destun ymgynghoriad a gorffennodd ar 4 Tachwedd 2016.

Cynllunio