Tir comin
Mae oddeutu 8.4% o arwynebedd Cymru yn dir comin cofrestredig, sy'n creu cyfanswm o ryw 175,000 o hectarau. Mae llawer o leiniau bach o dir comin yn ymyl ei gilydd, gan greu ardaloedd eang o dir comin ledled Cymru. Gall fod gan y lleiniau bach hyn o dir comin berchnogion a deiliaid hawliau gwahanol.
Mae llawer o dir comin yn bwysig i amaethyddiaeth yng Nghymru drwy ddarparu tir pori i ddefaid a gwartheg. Ar ben hynny, mae llawer o dir comin yn cael ei fwynhau yn sgil diddordebau hamdden ac amgylcheddol. Mae rhai mewn Parciau Cenedlaethol, neu ym mherchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Gall tir comin ddarparu cynefin pwysig ar gyfer adar, bywyd gwyllt a phlanhigion a ddiogelir.
Bydd Deddf Tiroedd Comin 2006 yn diogelu tir comin ar ein cyfer ni heddiw ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, yn ogystal â sicrhau manteision gwirioneddol o safbwynt ffermio cynaliadwy, mynediad i'r cyhoedd a bioamrywiaeth. Nod y Ddeddf yw:
- diogelu tir comin rhag cael ei ddatblygu
- caniatáu rheolaeth fwy cynaliadwy ar dir comin
- gwella'r gwaith i ddiogelu tir comin rhag cael ei esgeuluso a'i gam-drin; a
- moderneiddio'r broses o gofrestru tir comin a meysydd er mwyn sicrhau eu bod i gyd yn cael eu diogelu yn yr un modd.
Arolygiaeth Gynllunio Cymru sy’n gyfrifol am benderfynu ar geisiadau o dan adran 38 o’r Ddeddf sy’n ymwneud â thiroedd comin a meysydd tref neu bentref.
Mae'r Gofrestr Tir Comin ar gael i’r cyhoedd i'w harchwilio yn ystod oriau swyddfa arferol. Os hoffech wneud apwyntiad i weld y gofrestr, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.
Taliadau
Gall aelodau'r cyhoedd wneud cais i gael rhai mathau o wallau wedi'u cywiro yn y gofrestr tir comin. Byddwch yn ymwybodol efallai y bydd amgylchiadau lle mae'n ofynnol i ni gyfeirio cais i'r Arolygiaeth Gynllunio. Os bydd hyn yn digwydd, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd ychwanegol i'r Arolygiaeth Gynllunio i dalu am gost eu elfen o'r gwaith.
Math o gais | Ffi |
---|---|
Chwiliad Tir Comin | £20 |
Ymchwiliadau i'r Gofrestr Tir Comin | £30 yr awr |
Adran 19 (2)(a) Cywiro camgymeriad a wnaed gan awdurdod cofrestru. |
Dim ffi |
Adran 19 (2)(b) Cywiro unrhyw gamgymeriad arall na fyddai'n effeithio ar faint y tir comin neu'r maes tref neu bentref, neu'r hyn y gellir ei wneud yn rhinwedd hawl tir comin. |
£159 |
Adran 19 (2)(c) Dileu cofnod a gafodd ei gynnwys fwy nag unwaith ar gofrestr. |
Dim ffi |
Adran 19 (2)(d) Diweddaru enwau a chyfeiriadau y cyfeirir atynt mewn cofrestr. |
£26.56 |
Adran 19 (2)(e) Diweddaru cofnod i ystyried croniannau neu ddilywio. |
£26.56 |
Atodlen 2, Paragraff 2 neu 3 Tir comin neu faes tref neu bentref sydd heb fod wedi'i gofrestru. |
Dim ffi |
Atodlen 2, paragraff 4 Tir diffaith y faenor sydd heb fod wedi'i gofrestru'n dir comin. |
Dim ffi |
Atodlen 2, paragraff 5 Maes tref neu bentref sydd wedi'i gofrestru'n anghywir yn dir comin. |
Dim ffi |
Atodlen 2, paragraffau 6 - 9 Dadgofrestru tir penodol sydd wedi'i gofrestru'n dir comin neu'n faes tref neu bentref. |
£1062 |
Cynllunio
Cwestiynau Cyffredin - Cynllunio
Ymestyn / newid eich cartref
- Tystysgrif datblygiad cyfreithlon
- Gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio
- Caniatâd cynllunio deiliad tŷ
- Eiddo cyfagos / waliau cydrannol
- Ystlumod ac adar sy'n nythu
- Ardaloedd Cadwraeth
- Newidiadau i adeilad rhestredig
Chwilio am gais cynllunio
Cyflwyno sylwadau ar gais cynllunio
Cyflwyno cais cynllunio
Gwasanaeth cyn cyflwyno cais
Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (PAC)
Cyswllt cynllunio priffyrdd
Torri rheolau cynllunio
Brosiectau Cynllunio Mawr
Adeiladu tŷ newydd
Sut y gwneir penderfyniadau cynllunio
Systemau Draenio Trefol Cynaliadwy
Apeliadau cynllunio
Polisi Cynllunio
- Cynllun Datblygu Lleol 2006 - 2021
- Adroddiad Adolygu
- Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA)
- Tai Fforddiadwy
- Ardaloedd Tai Fforddiadwy
- Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB)
- Cyflenwad tir ar gyfer tai
- Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC)
Fy Un Agosaf - Gwybodaeth Cynllunio
Cyngor ecoleg
Adeiladau rhestredig
- Deall rhestru
- Pryd mae'n ofynnol cael caniatâd adeilad rhestredig?
- Addasiadau i Adeiladau Rhestredig
- Gwneud cais am ganiatâd adeilad rhestredig
- Beth sy'n digwydd ar ôl i benderfyniad ynghylch caniatâd adeilad rhestredig gael ei wneud
- Gwaith ar adeilad rhestredig heb ganiatâd
- Cynnal a chadw ac atgyweirio
- Ffynonellau gwybodaeth eraill
Enwi a rhifo strydoedd
Ynni Adnewyddadwy
Cynllun Datblygu Lleol 2018 - 2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
- Cytundeb Cyflawni
- Safleoedd Ymgeisio
- Adroddiad yr Arolygydd a Mabwysiadu'r Cynllun
- Cyflwyno'r Cynllun, ac Archwiliad Annibynnol
- Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo
- Strategaeth a Ffefrir (Ymgynghoriad Cyhoeddus Cyn Adneuo)
- Datblygu sylfaen o dystiolaeth
- Cwestiynau cyffredin
- Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo Cyntaf
Caniatâd cynllunio i ddatblygwyr
- Adran 106: Cartrefi Fforddiadwy
- Adran 106: Rhwymedigaethau Cynllunio
- Offeryn Asesu Model Hyfywedd Datblygu
Gorchymyn Datblygu Lleol (GDLl)
Gwnewch gais am arian Adran 106
Cadwraeth a chefn gwlad
Gwastraff
Bioamrywiaeth
- Pam mae bioamrywiaeth yn bwysig
- Rhywogaethau Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Cynefinoedd Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Partneriaeth Natur Sir Gaerfyrddin
- Prosiect Corsydd HLF
- Prosiect brithegion y gors
- Gwrychoedd
- Coetiroedd
- Pryfed Peillio
- Mynd yma ac acw!
- Deddfwriaeth a Chanllawiau
- Safleoedd Gwarchodedig
- Clefyd coed ynn
- Bywyd Gwyllt yn eich Ward
Ardaloedd cadwraeth
Mwy ynghylch Cynllunio