Canllaw Cais Cynllunio
Cais Byw
Fel arfer hon yw'r brif ran yn hynt y cais. Ar ôl i’r cais gael ei ddilysu, bydd ffeil y cais yn cael ei dyrannu i swyddog cynllunio.
Dylai ceisiadau gymryd wyth wythnos o'r amser y maent wedi eu cofrestru i gael eu cwblhau.
Ar gyfer Asesiad ar yr Effaith Amgylcheddol (AEA) y cyfnod yw 16 wythnos.
Mae'r swyddog achos yn dod yn gyfarwydd â'r cais ac yn asesu materion y gellid eu codi.
Cyswllt â’ch Swyddog Cynllunio
Cewch eich hysbysu’n electronig am ganlyniad y tri cham hyn:
- Derbyn (gwirio gyda chofrestru)
- Dilysu
- Penderfyniad
Os bydd ar y swyddog eisiau rhagor o wybodaeth gofynnir am hyn.
Sylwch mai at yr Asiant, os oes un wedi cael ei benodi, yr anfonir yr holl ohebiaeth.
Ymdrinnir â galwadau swyddogion cynllunio ac e-byst gan yr Hwb Cynllunio.
Hwb Cynllunio
Bydd yr Hwb Cynllunio yn derbyn, monitro ac yn ymateb i bob ymholiad o fewn 6 diwrnod gwaith ar ran y swyddogion cynllunio. Mae hyn wedi arwain at amseroedd ymateb gwell i’r holl bartïon a pherfformiad gwell o ran penderfynu ar geisiadau cynllunio. Mae’n bwysig rhoi manylion penodol i staff yr Hwb Cynllunio ynghylch y wybodaeth y mae arnoch ei hangen er mwyn i ymateb llawn gael ei roi’n effeithlon.
Gellir cysylltu â’r Hwb Cynllunio drwy e-bost planninghwb@sirgar.gov.uk neu dros y ffôn ar 01267 228878.
Â’r Asiant yn unig, os oes un wedi ei benodi, y bydd yr Hwb Cynllunio yn gohebu ar gyfer cais.
Efallai y byddwn yn cysylltu â’r Asiant yn uniongyrchol am fwy o wybodaeth ynghylch cais.
Pan fydd Asiant wedi cael ei benodi, rhaid i’r holl ohebiaeth gan yr ymgeisydd ddod drwy’r asiant ac nid yn uniongyrchol atom ni.
Byddwn yn gohebu â’r Asiant hefyd ar bob cam allweddol.
Os bydd arnoch eisiau diwygio eich cais cyn iddo gael ei benderfynu, bydd angen i chi gyflwyno cynlluniau diwygiedig i ni. Cadwch mewn cof y bydd cyflwyno cynlluniau diwygiedig yn ymestyn y cyfnod ystyried. At hynny, bydd ffi am ddiwygiadau i Geisiadau Cynllunio Mawr.
Sicrhewch eich bod yn darparu eich cyfeirnod cynllunio ar bob gohebiaeth.
Cyhoeddusrwydd
Rhoddir cyhoeddusrwydd i bob cais fel sy'n ofynnol dan ddeddfwriaeth.
Yn dibynnu ar fath a maint y cais, efallai y byddwn yn ymgynghori gan ddefnyddio un neu fwy o'r dulliau canlynol:
- Llythyr hysbysu i gymdogion/perchnogion/deiliaid gyda ffin gyfagos i'r safle
- 'Hysbysiad Cynllunio' wedi'i arddangos ar y safle arfaethedig neu gerllaw iddo
- Hysbysiad i'r wasg yn y papur newydd lleol
- Cyhoeddir pob cais ar-lein ar y Rhestr Wythnosol ar ein gwefan.
Caniateir o leiaf 3 wythnos ar gyfer cyhoeddusrwydd.
Mae eich barn yn cyfrif
Mae arnom eisiau clywed eich barn fel y gallwn ei chymryd i ystyriaeth wrth ystyried ceisiadau cynllunio.
Pe baech yn hoffi gwneud sylw ar ddatblygiad arfaethedig, rhaid ichi wneud hynny o fewn y cyfnod ymgynghori o 21 diwrnod. Gall unrhyw un wneud sylwadau, cyn belled â'i fod yn rhoi ei fanylion personol a gallant fod yn wrthwynebiadau, yn gefnogaeth neu'n sylwadau ar y cais. Ni allwn dderbyn sylwadau gan unrhyw un sy'n dymuno aros yn ddienw.
Ystyrir pob sylw, o blaid ac yn erbyn, cais os ydynt yn codi ystyriaethau cynllunio perthnasol, gan y gellir cymryd y rhain i ystyriaeth yn ystod y broses asesu.
Oherwydd maint yr ohebiaeth a dderbyniwn, ni fyddwn yn cydnabod derbyn eich sylwadau nac yn ymateb i'r sylwadau neu gwestiynau a gyflwynwyd nac yn rhoi gwybod i chi am y penderfyniad. Gallwch olrhain cynnydd y cais cynllunio ar-lein gan gynnwys yr hysbysiad o benderfyniad.
Wrth wneud sylwadau ar gais, ystyriwch y pwyntiau canlynol:
Byddwch yn glir – Mae'n bwysig nodi i ba gais cynllunio y mae eich sylwadau yn perthyn, felly cynhwyswch y rhif cyfeirnod, cyfeiriad y safle a'r disgrifiad yn eich ymateb.
- Byddwch yn ffeithiol – Dylai pob sylw fod yn seiliedig ar ffaith, ac felly mae’n bwysig eich bod yn edrych ar y cynlluniau ar gyfer y datblygiad arfaethedig cyn cyflwyno eich sylwadau.
- Yn ymwneud â chynllunio – Dim ond sylwadau sy'n ymwneud â materion cynllunio (a elwir yn “Ystyriaethau Perthnasol”) y gellir eu cymryd i ystyriaeth. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, mae'n well mynegi’ch holl bryderon, a gadael i'r Swyddog Achos weithio allan pa rai sy’n berthnasol yn hytrach na cholli rhywbeth a allai fod yn bwysig mewn gwirionedd.
- Yn ymwneud â'r cynnig - Dim ond sylwadau sy'n ymwneud â'r cais cynllunio perthnasol y gellir eu cymryd i ystyriaeth.
- Eglurwch os a sut y mae'n effeithio ar eich eiddo chi – Gall unrhyw un wneud sylw. Fodd bynnag, os ydych yn teimlo y bydd y cynnig yn effeithio ar eich eiddo chi, mae'n ddefnyddiol esbonio sut (gan gynnwys y berthynas rhwng eich eiddo chi a safle'r cais).
- Nodwch eich pryderon yn llawn – Fel arfer, ychydig o bwys a roddir ar sylwadau sy'n dangos cefnogaeth neu wrthwynebiad yn unig. Mae’n bwysig felly eich bod yn egluro pam yr ydych yn cefnogi neu’n gwrthwynebu cynnig.
- Eich gwybodaeth - Cofiwch na fydd cyflwyniadau dienw yn cael eu hystyried. Mae’n bwysig cynnwys eich enw, cyfeiriad post a manylion cyswllt (sylwer, os darperir cyfeiriad e-bost, byddwn yn cymryd yn ganiataol eich bod yn hapus i dderbyn gohebiaeth bellach yn y fformat hwnnw).
Gall y cyhoedd weld yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad drwy'r porth Cofrestr Gyhoeddus. Bydd arnoch angen rhif y cais cynllunio i weld y cais.
Y prif rannau o’r cais cynllunio sy’n cael eu dadansoddi yw:
Lleoliad safle'r datblygiad
- Perthynas y safle ag eiddo cyfagos
- Cyfyngiadau penodol i’r safle a’r cyffiniau megis:
- Gorchmynion Cadw Coed (GCC)
- ardaloedd cadwraeth
- parthau llifogydd
- ardaloedd ecolegol
- Gyda phwy yr ymgynghorwyd/hysbyswyd
- Hanes cynllunio'r safle gan gynnwys:
- amodau cynllunio
- rhesymau dros wrthodiadau blaenorol
- Manylion ffurflen gais
- Perchnogaeth y tir
- Datganiad dylunio a mynediad
- Y deunyddiau i'w defnyddio
- Adroddiadau neu ddatganiadau a wnaed gan yr ymgeisydd
- Gwirio cywirdeb y cynlluniau
- Asesiad o'r cynlluniau
Byddwn yn dechrau dadansoddi unrhyw faterion perthnasol a nodwyd gennym.
Ystyriaethau cynllunio perthnasol yn unig y gallwn eu cymryd i ystyriaeth. Wrth ystyried cais, mae gennym ddyletswydd statudol i ystyried darpariaethau’r cynllun datblygu ac unrhyw “ystyriaethau perthnasol”.
Mae’r “ystyriaethau perthnasol” mwyaf cyffredin yn cynnwys y canlynol, er nad yw’r rhestr yn hollgynhwysol:
- edrych dros/colli preifatrwydd
- colli golau neu fwrw cysgod
- parcio
- diogelwch priffyrdd
- traffig
- sŵn
- effaith ar adeiladau rhestredig a/neu ardaloedd
- cadwraeth
- gosodiad a dwysedd yr adeilad
- dyluniad, ymddangosiad a deunyddiau
- cadwraeth natur
- tirlunio
Materion na ellir eu cymryd i ystyriaeth yw:
- materion preifat rhwng cymdogion e.e. anghydfodau tir/ffiniau, difrod i eiddo, hawliau tramwy preifat, cyfamodau ac ati.
- colli gwerth eiddo
Byddwn yn ystyried yr ymatebion a dderbyniwyd i weld pa sylwadau a wnaed.
Os gallwn weld y byddai mân ddiwygiad yn datrys problemau neu'n gwella'r gwaith adeiladu terfynol, efallai y byddwn yn cysylltu â chi neu eich asiant i drafod y newidiadau a awgrymir.
Unwaith y bydd yr Ymgynghoriad a’r cyhoeddusrwydd wedi cael eu cyhoeddi, byddwn yn ymweld â’r safle pan fydd yn briodol ac yn asesu effaith y cais, gan gymryd polisïau cynllunio i ystyriaeth ac unrhyw ymatebion a dderbyniwyd. Yn ystod yr ymweliad bydd y swyddog yn nodi:
- Nodweddion y lleoliad gan gynnwys:
- natur y tir
- lefelau
- adeiladau amgylchynol
- natur yr ardal
- Effeithiau posibl ar y cymdogion gan gynnwys:
- colli golau
- edrych dros eiddo
- a yw’r defnydd yn cydweddu
- Effeithiau gweledol gan gynnwys:
- yr effaith ar y strydlun
- cyd-fynd â'r cymeriad presennol
- Mynediad
- Lleoliad priodol
- Effeithiau amgylcheddol megis:
- coed
- perthi
- llifogydd
- Cyfleusterau lleol
- Cynaliadwyedd
Bydd swyddogion yn gwirio bod y cymdogion perthnasol wedi cael eu hysbysu lle bo angen.
Fel arfer, byddwn yn gofyn i ymgeiswyr osod yr hysbysiad safle lle bo angen. Cyfrifoldeb y swyddog achos yn ystod ei ymweliad safle yw arddangos hysbysiadau safle:
- os bydd yr ymgeisydd heb osod yr hysbysiad safle.
Nid oes angen hysbysiadau safle ar bob math o gais.
Mae'r rhan hon o'r broses yn tynnu'r holl wybodaeth at ei gilydd i fod o gymorth i wneud penderfyniad. Bydd y swyddog achos yn ymchwilio i'r deunyddiau gwybodaeth amrywiol. Gall yr ymchwil hon gynnwys:
- hanes y safle ac achosion tebyg eraill
- polisïau cynllunio lleol a chenedlaethol
- canllawiau’r llywodraeth
- ymchwil benodol i’r achos
- deddfau cynllunio, rheoliadau a chyfraith achosion
- canllawiau dylunio
- dogfennau cynllunio atodol eraill
- ymatebion a dderbyniwyd i'r ymgynghoriad
- ymweliad safle pellach os oes angen er mwyn cael eglurder.
Yna bydd y swyddog:
- yn casglu'r wybodaeth ynghyd ac
- yn ei hystyried ochr yn ochr â'r wybodaeth a ddysgwyd ar ddechrau'r broses.
Mae hyn yn gosod sail ar gyfer argymhelliad cytbwys a gefnogir yn sylfaenol gan bolisi cynllunio. Mewn achosion eithriadol gall yr argymhelliad fod wedi ei bwysoli i'r gwrthwyneb gan ystyriaethau perthnasol eraill.
Mae’n bosibl y bydd angen i swyddog achos, os ystyrir bod hynny’n briodol, ofyn am:
- wybodaeth bellach gan yr ymgeisydd neu
- ddiwygiad i'r cynnig.
Bydd y Swyddog Cynllunio yn gwneud penderfyniad ar y cynnig cyn gynted â phosibl o fewn y terfyn amser statudol neu unrhyw gyfnod hirach arall fel y cytunwyd yn ysgrifenedig gyda'r ymgeisydd.
Y terfyn amser statudol ar gyfer cais cynllunio yw 8 wythnos ar gyfer ceisiadau (oni bai bod cais yn destun Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol, ac os felly mae’r terfyn amser yn 16 wythnos).
Unwaith y bydd penderfyniad wedi cael ei wneud byddwn yn anfon yr hysbysiad o benderfyniad atoch chi neu eich asiant. Bydd yr hysbysiad yn rhoi gwybod i chi a yw eich cais wedi cael ei gymeradwyo neu ei wrthod.
Os bydd wedi cael ei gymeradwyo efallai y bydd amodau ynghlwm wrtho. Gall yr amodau gyfyngu ar yr hyn y gellwch ei wneud ar y safle/tir neu a fydd angen i chi gael caniatâd penodol ar gyfer agweddau ar y datblygiad, megis y deunyddiau i’w defnyddio, cyn y gallwch symud ymlaen. Bydd rhai amodau yn ei gwneud yn ofynnol i chi gyflwyno gwybodaeth bellach drwy gais rhyddhau amod Cynllunio i gael ei chymeradwyo gennym cyn i'r datblygiad ddechrau.
Os bydd wedi cael ei wrthod bydd yn cynnwys y rhesymau pam y bu’r cynnig yn aflwyddiannus.
Bydd copi o’r penderfyniad ar gael ar ein gwefan. Gallwch olrhain ceisiadau cynllunio ar-lein a gweld dogfennau cysylltiedig a'r hysbysiad o benderfyniad.
A gaiff fy ffi ei had-dalu os caiff fy nghais ei wrthod?
Na. Mae gennych hawl i ailgyflwyno heb unrhyw ffi bellach o fewn blwyddyn i ddyddiad y cais a wrthodwyd neu o fewn blwyddyn i ddyddiad derbyn cais a dynnwyd yn ôl. Rhaid i’r ail gyflwyniad ‘am ddim’ fod gan yr un ymgeisydd, rhaid iddo fod ar gyfer yr un disgrifiad o’r datblygiad, ac ymwneud â’r un safle â’r un yn y cais cychwynnol.
Cais am ddiwygiad ansylweddol yn dilyn rhoi caniatâd cynllunio.
Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 Adran 96A
Pryd bydd angen y cais hwn
Yn dilyn rhoi caniatâd cynllunio, efallai y bydd angen gwneud newidiadau i’r cynigion a gymeradwywyd yn wreiddiol. Gellir gwneud cais am ddiwygiad ansylweddol i gymeradwyo newid bychan i’r caniatâd cynllunio ac nad yw’n torri unrhyw amodau a osodwyd ar y caniatâd gwreiddiol.
Os na fyddwn yn ystyried bod y diwygiad yn fân ddiwygiad, bydd angen cais cynllunio newydd.
Bydd p’un a gaiff y diwygiad(au) arfaethedig eu hystyried yn ‘ansylweddol’ yn hytrach na ‘sylweddol’ yn dibynnu ar fanylion penodol y caniatâd cynllunio presennol. Gallai newid a gâi ei ystyried yn ‘ansylweddol’ efallai mewn un achos gael ei ystyried yn ‘sylweddol’ mewn achos arall. Bydd dyfarniadau a wneir ar ddiwygiad(au) yn seiliedig ar y caniatâd cynllunio presennol ac unrhyw ddiwygiadau ‘ansylweddol’ a wnaed yn flaenorol.
Sylwch: Ni ellir defnyddio’r math hwn o gais i wneud newidiadau i ganiatâd adeilad rhestredig.
Enghreifftiau o newidiadau y gellir eu hystyried yn ansylweddol:
Gwybodaeth Angenrheidiol
Efallai y bydd cais am ddiwygiad ansylweddol yn ei gwneud yn ofynnol i chi gyflwyno unrhyw newidiadau i luniadau a chynlluniau a gyflwynwyd o dan y caniatâd cynllunio gwreiddiol. Yn ogystal â gwybodaeth fanwl am y diwygiadau arfaethedig a sut y mae'r rhain yn wahanol i'r cais gwreiddiol.