Gwnewch gais am arian Adran 106

Diweddarwyd y dudalen ar: 25/01/2023

I fod yn gymwys i gael cyllid Adran 106 mae'n rhaid i brosiect ddarparu gwell seilwaith cymunedol neu gymdeithasol neu fwy ohono (megis prosiectau llecynnau glas a chyfleusterau cymunedol) y mae'r angen am hynny wedi codi, o leiaf yn rhannol, yn sgil datblygiad newydd. Rhaid i'r cyfleusterau a ddarperir fod ar agor i'r cyhoedd a bod o fudd i'r cyhoedd a'r gymuned.

Gall pob mudiad sefydliad cymunedol sy'n gweithredu ar sail ddielw yn Sir Gaerfyrddin wneud cais am gyllid.

Os yw'ch cais yn llwyddiannus bydd swm y cyllid a ddyfernir yn dibynnu ar faint o arian Adran 106 sydd ar gael ar gyfer i'ch cymuned. Gellir darparu 100% o gostau prosiectau os bydd digon o arian ar gael. Fodd bynnag, anogir ymgeiswyr i geisio arian cyfatebol gan gyrff grantiau a ffynonellau cymunedol eraill lle bo modd fel y gall arian Adran 106 gefnogi cynifer o brosiectau lleol â phosibl.

Bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol fel rhan o'ch cais:

  • Manylion y prosiect
  • Sut defnyddir yr arian adran 106
  • Manteision y prosiect i'r gymuned
  • A yw wedi cael ei gymeradwyo gan y Cyngor Tref/Cymuned neu Gynghorydd Lleol
  • Manylion y sefydliad a'r prif gyswllt ar gyfer y cais
  • Costau'r prosiect, ffynonellau o gyllid a chynaliadwyedd/cynnal a chadw

I wneud cais am gyllid Adran 106, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen gais a'i dychwelyd at biwro@sirgar.gov.uk.

Lawrlwythwch ffurflen gais am arian Adran 106

Cynllunio