Canllaw i Ymgynghorwyr Ecolegol
Diweddarwyd y dudalen ar: 03/10/2023
Rhaid i adroddiadau ecolegol, er enghraifft Arfarniadau Ecolegol Rhagarweiniol (PEA), ac ati, ddarparu digon o wybodaeth i'r Awdurdod Cynllunio Lleol allu penderfynu ar y cais yng nghyd-destun deddfwriaeth genedlaethol a pholisi lleol, gan gynnwys Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin a Chanllawiau Cynllunio Atodol.
Rhaid darparu'r holl wybodaeth am arolygon, effeithiau, mesurau osgoi, lliniaru a gwella gyda'r cais cynllunio cyn penderfynu. Mae'n bwysig bod yr ymgeisydd yn deall hyn. Bydd ceisiadau da sydd â gwybodaeth gywir yn cael eu prosesu'n gyflymach.
Mae'n hanfodol fod gennych ddealltwriaeth gadarn o ddeddfwriaeth bywyd gwyllt a pholisi cynllunio (mewn perthynas â bywyd gwyllt) yn ogystal ag arolygon rhywogaethau a gofynion lliniaru/digolledu/gwella gan gynnwys Budd Net i Fioamrywiaeth.
Dylai’r holl waith gydymffurfio â’r Safon Brydeinig ar gyfer Bioamrywiaeth - BS42020 a chanllawiau CIEEM ar gyfer ysgrifennu adroddiadau ecolegol (Canllawiau ar gyfer Ysgrifennu Adroddiadau Ecolegol, Ail Argraffiad, Rhagfyr 2017). Rhaid i Fudd Net i Fioamrywiaeth gydymffurfio â chanllawiau cenedlaethol a lleol a rhaid dilyn fframwaith DECCA (Ymagwedd Llywodraeth Cymru at Fudd Net i Fioamrywiaeth a Fframwaith DECCA yn y System Cynllunio Daearol, Papur Briffio CIEEM, Medi 2022). Rhaid i syrfewyr feddu ar gymwyseddau da sy'n berthnasol i'r rhywogaethau a warchodir a all fod yn bresennol ar y safle a rhaid dilyn unrhyw ganllawiau penodol am rywogaeth gan gyrff proffesiynol perthnasol.
RHAID i bob adroddiad ecolegol gynnwys y canlynol:
- Dyddiadau'r adroddiadau.
- Dyddiadau a'r amserau y cynhaliwyd yr arolygon.
- Enwau a phrofiad perthnasol, cymwysterau a rhifau trwydded syrfewyr a'r sawl a luniodd adroddiadau.
- Unrhyw gyfyngiadau o ran yr arolwg.
Dylai adroddiadau ecolegol nodi’n glir:
- Sut y mae'r datblygiad yn effeithio ar safleoedd dynodedig cenedlaethol a lleol a rhywogaethau a warchodir (asesiad effaith).
- Sut y caiff yr effeithiau eu hosgoi, eu lliniaru, neu eu digolledu, eu gwella (gan gymhwyso'r hierarchaeth liniaru).
- Sut y bydd y datblygiad yn arwain at Fudd Net i Fioamrywiaeth y mae'n rhaid ei gynnwys mewn Datganiad Gweithredu Budd Net i Fioamrywiaeth.
- Sut y mae'r cais yn cydymffurfio â deddfwriaeth a pholisi.
- Os oes unrhyw waith clirio safle wedi digwydd, rhaid i'r adroddiad ystyried y gwerth ecolegol cyn i'r gwaith clirio hwnnw ddigwydd, gan ddefnyddio lluniau o'r awyr ac ati yn ôl yr angen. Rhaid i'r Budd Net i Fioamrywiaeth gael ei gyfrifo o'r adeg cyn i'r gwaith clirio gael ei wneud.
Pan fo effaith neu effaith bosibl ar safle a ddynodwyd yn rhyngwladol (Ardal Cadwraeth Arbennig neu Ardal Gwarchodaeth Arbennig) rhaid i'r ymgynghorydd ddarparu digon o wybodaeth i'r Awdurdod Cynllunio Lleol (fel yr awdurdod cymwys) gynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd. Cyfeirir yn aml at y wybodaeth hon fel “Adroddiad i Hysbysu’r Asesiad Priodol o’r cynllun arfaethedig [nodwch enw’r cynllun].”
Pan fo effaith ar gynefinoedd dynodedig eraill neu gynefinoedd/rhywogaethau o’r pwys mwyaf rhaid i'r adroddiadau ecolegol nodi sut y mae'r cais yn cydymffurfio â pholisi.
Rhaid rhoi mewnbwn i unrhyw gynllun SDCau sy'n Seiliedig ar Natur yn gynnar yn y broses ddylunio. Yn achos rhai datblygiadau bydd y cynllun SDCau sy'n Seiliedig ar Natur yn cynnwys llawer o'r Budd Net i Fioamrywiaeth ar gyfer y safle penodol hwnnw.
I ddangos Budd Net i Fioamrywiaeth rhaid cyflwyno'r canlynol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol
- Map lleoliad a map/cynllun/cynlluniau wedi’u hanodi’n glir yn dangos nodweddion bywyd gwyllt/ecolegol allweddol cyn datblygu (e.e. map cam 1, UK hab, cynlluniau adeiladu yn dangos clwydfannau ystlumod). Byddai hyn fel arfer yn cael ei gynnwys yn yr Arfarniad Ecolegol Rhagarweiniol (PEA).
- Cynllun Dylunio Tirwedd ac Ecolegol (LEDS) sy'n dangos y safle ar ôl datblygu gyda’r holl fesurau osgoi, lliniaru, digolledu, a gwella y cytunwyd arnynt gyda'r cleient. Efallai y bydd angen cael cynllun ar wahân yn dangos mesurau yn ystod datblygu e.e. dangos parthau gwahardd adeiladu ar gyfer coed, ac ati (os bydd ei angen, dylai fod yn ymwneud yn glir â'r Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu - CEMP). Rhaid dangos colledion ac enillion ar ffurf map a/neu ar ffurf tabl. Dylai ecolegwyr ymgynghorol gyfrannu at y cynllun(iau) hyn a sicrhau eu bod yn dangos yn glir yr holl argymhellion ecolegol.
- Datganiad Seilwaith Gwyrdd - Dylai hwn ddwyn ynghyd yr holl fanylion gofynnol am fesurau osgoi, lliniaru, digolledu a gwella. Rhaid i fanylion fod yn glir ac yn ddigon manwl (gan gynnwys datganiadau dull lle bo angen) – nid rhestr o argymhellion yn unig. Gall gweithredu’r camau gweithredu yn y datganiad hwn fod yn amod o’r caniatâd (os caiff ei roi) a gellir tynnu’r datganiad allan i’w ddefnyddio fel dogfen annibynnol wrth fonitro’r cais. Ar gyfer datblygiadau mawr sydd â sawl adroddiad, dylai hon fod yn ddogfen annibynnol sy'n dwyn ynghyd y camau gweithredu angenrheidiol o'r holl adroddiadau. Mae'n hanfodol bod y cleient yn fodlon cymryd camau gweithredu. Dylid llunio'r datganiad mewn cydweithrediad ag ymgynghorwyr tirwedd, ymgynghorwyr coed, dylunwyr systemau draenio trefol cynaliadwy ac eraill sy'n gweithio ym maes seilwaith gwyrdd. Rhaid i'r Datganiad Seilwaith Gwyrdd ymwneud yn glir â'r Cynllun Dylunio Tirwedd ac Ecolegol (LEDS).
- Ar gyfer cynlluniau mwy o faint, neu'r rhai sydd ag effaith ecolegol bosibl fawr, rhaid i ymgynghorwyr ecolegol gyfrannu at y gwaith (ac os yw'n briodol arwain ar y gwaith) o gynhyrchu Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu (CEMP) a Chynllun Rheoli Ecoleg a'r Dirwedd (LEMP) i sicrhau bod elfennau ecolegol yn cael eu gwarchod, eu rheoli'n briodol, a'u gwella yn ystod y gwaith adeiladu ac am oes y datblygiad. Gall hwn fod yn amod cyn cychwyn yn hytrach na bod yn ofynnol wrth gyflwyno cais.
Cynllunio
Canllaw Cais Cynllunio
- Syniad Datblygu
- A oes arnaf angen Asiant Cynllunio?
- Gwybodaeth Allweddol
- Cam Cyn Ymgeisio
- Math o Gais Cynllunio
- Cyflwyno Cais
- Dilysu
- Cais Byw
- Pwyllgor Cynllunio
- Apeliadau
- Compliance / Enforcement
- Cwblhau Datblygiad
Brosiectau Cynllunio Mawr
Ymestyn / newid eich cartref
- Tystysgrif datblygiad cyfreithlon
- Gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio
- Caniatâd cynllunio deiliad tŷ
- Eiddo cyfagos / waliau cydrannol
- Ystlumod ac adar sy'n nythu
- Ardaloedd Cadwraeth
- Newidiadau i adeilad rhestredig
Chwiliwch am gais cynllunio
Torri rheolau cynllunio
Newid defnydd (Cynllunio)
Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (PAC)
Cyswllt cynllunio priffyrdd
Offeryn Asesu Model Hyfywedd Datblygu
Systemau Draenio Cynaliadwy
Gwnewch gais am arian Adran 106
Gorchymyn Datblygu Lleol (GDLl)
Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth
- Deall rhestru
- Pryd mae'n ofynnol cael caniatâd adeilad rhestredig?
- Addasiadau i Adeiladau Rhestredig
- Gwneud cais am ganiatâd adeilad rhestredig
- Beth sy'n digwydd ar ôl i benderfyniad ynghylch caniatâd adeilad rhestredig gael ei wneud
- Gwaith ar adeilad rhestredig heb ganiatâd
- Cynnal a chadw ac atgyweirio
- Ffynonellau gwybodaeth eraill
- Ardaloedd Cadwraeth
Cadwraeth a chefn gwlad
Enwi a rhifo strydoedd
Fy Un Agosaf - Gwybodaeth Cynllunio
Polisi Cynllunio
- Cynllun Datblygu Lleol 2006 - 2021
- Adroddiad Adolygu
- Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA)
- Tai Fforddiadwy
- Ardaloedd Tai Fforddiadwy
- Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB)
- Cyflenwad tir ar gyfer tai
- Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC)
Cynllun Datblygu Lleol 2018 - 2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
- Cytundeb Cyflawni
- Safleoedd Ymgeisio
- Archwiliad Annibynnol
- Dogfennau Cyflwyno
- Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Ail Adneuo
- Strategaeth a Ffefrir (Ymgynghoriad Cyhoeddus Cyn Adneuo)
- Datblygu sylfaen o dystiolaeth
- Cwestiynau cyffredin
- Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo Cyntaf
Ynni Adnewyddadwy
Cynllunio Ecoleg
Targedau ffosffad newydd
- Pa gamau ydym wedi eu cymryd?
- Cyfrifiannell Gorllewin Cymru
- Mesurau Lliniaru
- Y Camau Nesaf
- Cwestiynau Cyffredin Ffosfad
- Prosiect Dalgylch Arddangos Teifi
- “Effaith canllawiau CNC ar Asesiadau Amonia”
Bioamrywiaeth
- Pam mae bioamrywiaeth yn bwysig
- Rhywogaethau Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Cynefinoedd Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Partneriaeth Natur Sir Gaerfyrddin
- Prosiect Corsydd HLF
- Prosiect brithegion y gors
- Gwrychoedd
- Coetiroedd
- Pryfed Peillio
- Mynd yma ac acw!
- Deddfwriaeth a Chanllawiau
- Safleoedd Gwarchodedig
- Clefyd coed ynn
- Bywyd Gwyllt yn eich Ward
- Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
- Sefyllfa Byd Natur yn Sir Gaerfyrddin
Gwastraff
Mwy ynghylch Cynllunio