Cwestiynau Cyffredin’
Mae Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn nodi cynigion a pholisïau ar gyfer pob math o ffyrdd o ddefnyddio'r tir yn lleol yn y dyfodol, a dyma'r brif ddogfen o ran cynlluniau datblygu yng Nghymru. Mae'r CDLl yn cwmpasu cyfnod o bymtheg mlynedd a dylai adlewyrchu'r polisi cynllunio cenedlaethol yng Nghymru.
Yng nghyfarfod y Cyngor ar 10 Ionawr 2018 penderfynwyd paratoi CDLl diwygiedig ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Disgwylir i'r broses baratoi ar gyfer CDLl gael ei chwblhau mewn 3.5 o flynyddoedd. Nodir yr amserlen ar gyfer paratoi'r CDLl Diwygiedig yn y Cytundeb Cyflawni y cytunwyd arno gan Lywodraeth Cymru ar 28 Mehefin 2018.
Ar ôl iddo gael ei fabwysiadu (ei gwblhau) defnyddir y CDLl Diwygiedig fel sail ar gyfer penderfynu ar geisiadau cynllunio a bydd yn helpu i lywio rhaglenni buddsoddi yn y dyfodol mewn meysydd megis isadeiledd yn ogystal â chynlluniau a strategaethau, gan gynnwys rhai gan sefydliadau sy'n bartneriaid.
Paratoir y CDLl gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Mae nifer o gamau i baratoi’r Cynllun a sawl cam gwahanol o ymgynghori ac o gynnwys pobl yn y paratoadau. Cyn dechrau’r gwaith ar y CDLl, fe wnaethom baratoi Cytundeb Cyflawni sy’n pennu amserlen y CDLl ac yn nodi sut a phryd y gall pobl fod yn rhan o’r paratoadau.
Wrth baratoi’r CDLl,byddwn yn adeiladu sylfaen dystiolaeth i hysbysu a chefnogi’r Cynllun. Rydym hefyd wedi paratoi Cyflwyniad Hawdd ei Ddeall i’r CDLl Diwygiedig.
Trwy gydol paratoadau’r CDLl bydd nifer o gyfleoedd i gymryd rhan. Cyn dechrau’r gwaith ar y CDLl, fe wnaethom baratoi Cytundeb Cyflawni sy’n pennu amserlen y CDLl ac yn nodi sut a phryd y gall pobl fod yn rhan o’r paratoadau.
Yn ystod y camau gwahanol o baratoi’r CDLl Diwygiedig bydd cyfleoedd i bobl gymryd rhan a dweud wrthym eu barn. ‘Sylwadau’ yw’r term a ddefnyddir am gyflwyno sylwadau i ni.
Mae'r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i'r CDLl fod yn “gadarn” ac i hyn gael ei brofi drwy archwiliad annibynnol. Mae 3 phrawf cadernid a ddefnyddir i asesu’r CDLl. O dan bob prawf mae cyfres o gwestiynau sydd i’w hystyried:
Prawf 1: A yw'r cynllun yn cydweddu? (h.y. a yw'n amlwg bod y CDLl yn cyd-fynd â chynlluniau eraill?)
Cwestiynau
- A yw'n ystyried polisi cenedlaethol a Chynllun Gofodol Cymru
- A yw'n ystyried Nodau Llesiant
- A yw'n ystyried Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru
- A yw'n gyson â chynlluniau, strategaethau a rhaglenni cyfleustodau lleol?
- A yw'n cyd-fynd â chynlluniau awdurdodau cyfagos?
- A yw'n adlewyrchu'r Cynllun Integredig Sengl neu Gynllun Rheoli'r Parc Cenedlaethol?
Prawf 2: A yw'n cynllun yn briodol? (h.y. a yw'r cynllun yn briodol i'r ardal yng ngoleuni'r dystiolaeth?)
Cwestiynau
- A yw'n ymwneud yn benodol â'r ardal leol?
- A yw'n ymdrin â'r materion allweddol?
- A yw'n cael ei ategu gan dystiolaeth gadarn, cymesur a chredadwy?
- A ellir dangos y sail resymegol i bolisïau'r cynllun?
- A yw'n ceisio diwallu anghenion a aseswyd a chyfrannu at sicrhau datblygu cynaliadwy?
- A yw'r weledigaeth a'r strategaeth yn gadarnhaol ac yn ddigon dyheadol?
- A yw'r dewisiadau amgen ‘gwirioneddol’ wedi'u hystyried yn briodol?
- A yw'n rhesymegol, yn rhesymol ac yn gytbwys?
- A yw'n gydlynol ac yn gyson?
- A yw'n glir ac yn benodol?
Prawf 3: A fydd y cynllun yn cyflawni (h.y. a yw'n debygol o fod yn effeithiol?)
Cwestiynau
- A fydd yn effeithiol?
- A ellir ei weithredu?
- A oes cymorth ar gael gan y darparwyr seilwaith perthnasol, o ran rhoi arian a helpu i gyflawni datblygiadau o fewn terfynau amser perthnasol?
- A fydd datblygiadau yn ddichonadwy?
- A ellir darparu'r safleoedd a ddyrannwyd?
- A yw'r cynllun yn ddigon hyblyg? A oes darpariaethau wrth gefn priodol?
- A yw'n cael ei fonitro'n effeithiol?
Cynllunio
Cwestiynau Cyffredin - Cynllunio
Ymestyn / newid eich cartref
- Tystysgrif datblygiad cyfreithlon
- Gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio
- Caniatâd cynllunio deiliad tŷ
- Eiddo cyfagos / waliau cydrannol
- Ystlumod ac adar sy'n nythu
- Ardaloedd Cadwraeth
- Newidiadau i adeilad rhestredig
Chwilio am gais cynllunio
Cyflwyno sylwadau ar gais cynllunio
Cyflwyno cais cynllunio
Gwasanaeth cyn cyflwyno cais
Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (PAC)
Cyswllt cynllunio priffyrdd
Torri rheolau cynllunio
Brosiectau Cynllunio Mawr
Adeiladu tŷ newydd
Sut y gwneir penderfyniadau cynllunio
Systemau Draenio Trefol Cynaliadwy
Apeliadau cynllunio
Polisi Cynllunio
- Cynllun Datblygu Lleol 2006 - 2021
- Adroddiad Adolygu
- Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA)
- Tai Fforddiadwy
- Ardaloedd Tai Fforddiadwy
- Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB)
- Cyflenwad tir ar gyfer tai
- Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC)
Fy Un Agosaf - Gwybodaeth Cynllunio
Cyngor ecoleg
Adeiladau rhestredig
- Deall rhestru
- Pryd mae'n ofynnol cael caniatâd adeilad rhestredig?
- Addasiadau i Adeiladau Rhestredig
- Gwneud cais am ganiatâd adeilad rhestredig
- Beth sy'n digwydd ar ôl i benderfyniad ynghylch caniatâd adeilad rhestredig gael ei wneud
- Gwaith ar adeilad rhestredig heb ganiatâd
- Cynnal a chadw ac atgyweirio
- Ffynonellau gwybodaeth eraill
Enwi a rhifo strydoedd
Ynni Adnewyddadwy
Cynllun Datblygu Lleol 2018 - 2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
- Cytundeb Cyflawni
- Safleoedd Ymgeisio
- Adroddiad yr Arolygydd a Mabwysiadu'r Cynllun
- Cyflwyno'r Cynllun, ac Archwiliad Annibynnol
- Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo
- Strategaeth a Ffefrir (Ymgynghoriad Cyhoeddus Cyn Adneuo)
- Datblygu sylfaen o dystiolaeth
- Cwestiynau cyffredin
- Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo Cyntaf
Caniatâd cynllunio i ddatblygwyr
- Adran 106: Cartrefi Fforddiadwy
- Adran 106: Rhwymedigaethau Cynllunio
- Offeryn Asesu Model Hyfywedd Datblygu
Gorchymyn Datblygu Lleol (GDLl)
Gwnewch gais am arian Adran 106
Cadwraeth a chefn gwlad
Gwastraff
Bioamrywiaeth
- Pam mae bioamrywiaeth yn bwysig
- Rhywogaethau Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Cynefinoedd Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Partneriaeth Natur Sir Gaerfyrddin
- Prosiect Corsydd HLF
- Prosiect brithegion y gors
- Gwrychoedd
- Coetiroedd
- Pryfed Peillio
- Mynd yma ac acw!
- Deddfwriaeth a Chanllawiau
- Safleoedd Gwarchodedig
- Clefyd coed ynn
- Bywyd Gwyllt yn eich Ward
Ardaloedd cadwraeth
Mwy ynghylch Cynllunio