Adroddiad Adolygu Cynllun Datblygu Lleol

Diweddarwyd y dudalen ar: 31/08/2023

Ar ôl mabwysiadu'r Cynllun Datblygu Lleol mae'n ofynnol inni sicrhau bod ei gynnwys yn parhau i fod yn gyfoes a'n bod yn gwneud newidiadau lle bo angen.  Mae hyn yn adlewyrchu gofynion Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, sef bod cynnwys y CDLl yn cael ei adolygu’n rheolaidd. Un o'r prif ffyrdd o wneud hyn yw trwy'r Adroddiadau Monitro Blynyddol a deall lle mae'r Cynllun yn perfformio'n dda a lle nad yw, o bosibl, yn llwyddo fel y bwriedir.

Roedd yr ail Adroddiad Monitro Blynyddol (16-17) yn asesu perfformiad y CDLl a'r wybodaeth a'r dystiolaeth gyd-destunol berthnasol. I grynhoi, roedd yr Adroddiad Monitro Blynyddol yn argymell i lunio Adroddiad yn Adolygu’r CDLl. 

Roedd yr Adroddiad Adolygu yn ystyried ac yn nodi'r meysydd hynny o'r CDLl sy'n perfformio'n dda ac yn cyflawni, a'r meysydd hynny lle bydd angen gwneud newidiadau. Roedd hefyd yn nodi'r gofynion ar gyfer CDLl Diwygiedig ac yn argymell y dylid adolygu'r Cynllun.

Cafodd cynnwys yr Adroddiad Adolygu ei ystyried yng nghyfarfod y Cyngor ar 10 Ionawr 2018 a phenderfynwyd dechrau ar baratoi CDLl Diwygiedig 2018-2033. 

 

Cynllunio