Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio
Diweddarwyd y dudalen ar: 17/04/2024
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno adroddiad ymgynghori cyn ymgeisio ar gyfer yr holl geisiadau llawn neu amlinellol am gynigion 'mawr'. Diffinnir datblygiad 'mawr' yn erthygl 2 Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012. Mae hyn yn berthnasol i'r canlynol:
- adfer a gweithio mwynau neu ddefnyddio tir ar gyfer dyddodion gwaith mwynol
- datblygu gwastraff
- datblygiadau preswyl o 10 annedd neu fwy neu lle mae arwynebedd y safle yn 0.5 hectar neu'n fwy (os nad yw nifer y preswylfeydd yn hysbys)
- darparu adeilad neu adeiladau lle bydd yr arwynebedd llawr a gaiff ei greu yn 1,000 metr sgwâr
- datblygiad a wneir ar safle sydd ag arwynebedd o 1 hectar neu fwy
- Nid yw'r gofyniad yn berthnasol i geisiadau arfaethedig o dan adran 73 na 73a o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, materion a gadwyd yn ôl, nac o dan adran 96a (newidiadau ansylweddol).
Mae cynnal ymgynghoriad cyn ymgeisio a chyflwyno adroddiad yn ei gylch ynghyd â chais cynllunio ffurfiol yn ofynnol o dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015.
Mae ymgynghoriad effeithiol yn:
- Rhoi cyfle i'r ymgeisydd wella ei gais cynllunio cyn ei gyflwyno
- Gallu cynorthwyo'r cynnig i gael ei dderbyn gan ymgyngoreion y broses, gan gynnwys y gymuned leol
- Gallu helpu i osgoi costau ac oedi diangen gan sicrhau yr eir i'r afael â'r holl faterion perthnasol cyn gynted â phosibl
Cyn ymgymryd ag Ymgynghoriad cyn Ymgeisio, argymhellir eich bod yn cysylltu â ni. Rydym yn cynnig gwasanaeth cyn ymgeisio. Gallwn roi cyngor ynghylch y materion canlynol:
- Pa ddogfennau a gwybodaeth a fydd eu hangen fel rhan o'r cais cynllunio a pha ddogfennau y dylid ymgynghori yn eu cylch;
- Pa ymgyngoreion ychwanegol a allai gynnig cyfraniad gwerthfawr at yr ymgynghoriad yn ogystal â'r ymgyngoreion statudol a nodir yn y Gorchymyn. Gall y rhain gynnwys adeiniau eraill o'r Cyngor y mae eu meysydd gorchwyl yn ymwneud â materion megis ecoleg, diogelu'r cyhoedd, polisi cynllunio, a darparu parciau a mannau agored er enghraifft.
Byddem hefyd yn awgrymu eich bod yn ystyried y pwyntiau canlynol o ran arferion da, a amlinellir yn Ymgynghoriad Cymunedol Cyn Ymgeisio: Canllaw Arferion Gorau i Ddatblygwyr gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn caniatáu i chi fanteisio i'r eithaf ar fuddion yr ymgynghoriad cyn ymgeisio, a gall fod yn haws i gymunedau ac ymgyngoreion statudol gael dylanwad ar y cynigion datblygu.
Dylai ymgeiswyr gofio manteision o ran cael cymaint o gyhoeddusrwydd â phosibl cyn ymgeisio, ac wrth wneud hyn, dylent ystyried mynd y tu hwnt i ofynion y Gorchymyn. Dyma rai enghreifftiau:
- Cynnal digwyddiadau ymgynghori megis arddangosfeydd cyhoeddus, digwyddiadau galw heibio, cyflwyniadau a gweithdai. Dylai digwyddiadau gael eu cynnal mewn lleoliadau a safleoedd hygyrch a chynhwysol er mwyn galluogi cymaint â phosibl o bobl y byddai'r cynnig yn cael effaith arnynt i ddod, er mwyn iddynt wneud cyfraniadau gwerthfawr at yr ymgynghoriad.
- Dangos mwy nag un hysbysiad safle lle bo'n briodol a'u dangos yn eang. Ystyrir ei fod yn arfer da i ddatblygwyr roi hysbysiadau safle wrth bob mynediad presennol a phob pwynt mynediad arfaethedig i safle'r cais ac o leiaf un hysbysiad ar hyd pob ffin sy'n gyfagos i briffordd neu lwybr troed cyhoeddus, neu'n ffinio â hwy
- Ymestyn y cyfnod ymgynghori 28 diwrnod
- Sicrhau bod y dogfennau ymgynghori ar gael o fewn oriau gwaith arferol. Pan fydd dogfennau'n cael eu rhoi mewn adeilad sydd ag oriau agor cyfyngedig, ystyrir ei fod yn arfer da i sicrhau bod y dogfennau hefyd yn cael eu rhoi mewn ail leoliad sydd ar agor i'r cyhoedd yn ystod oriau gwaith arferol. Gellir defnyddio llyfrgelloedd mwy'r Cyngor at y diben hwn.
- Ymestyn ardal yr ymgynghoriad, yn enwedig mewn perthynas â safleoedd mwy
- Defnyddio deunyddiau megis taflenni a llythyrau newyddion cymunedol.
- Defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol megis Twitter a Facebook
- Sesiwn Briffio Cysylltiadau Rhagweithiol â'r Cyfryngau a Datganiadau i'r Wasg
- Defnyddio llythyrau ffurfiol
- Cynnal trafodaethau â chynrychiolwyr y gymuned megis yr Aelodau Lleol, Cynghorau Tref a Chynghorau Cymuned, am faterion mewn perthynas â'r cynnig gan gynnwys unrhyw rwymedigaethau cynllunio posibl
- Cynnal ymgynghoriad anstatudol ychwanegol cyn yr ymgynghoriad cyn ymgeisio
- Rhoi crynodebau annhechnegol o ddogfennau technegol (yn y Gymraeg a'r Saesneg)
- Rhaid cyflwyno lluniadau a chynlluniau ar ffurf sy'n hawdd ei deall
- Dylai ymgeiswyr ddilyn yr Egwyddorion Cenedlaethol o ran Ymgysylltu a Chyfranogi
- Dylai dogfennau'r cais cynllunio drafft fod ar gael at ddibenion ymgynghori. Er y cydnabyddir bod y rhain yn ddogfennau drafft, dylai'r ymgeisydd sicrhau bod y dogfennau a'r wybodaeth a ddarperir yn rhoi digon o wybodaeth er mwyn i'r ymgyngoreion roi ymateb gwybodus. Os na ddarperir digon o wybodaeth at ddibenion yr ymgynghoriad cyn ymgeisio, nid yw'n debygol y caiff adroddiad yr ymgynghoriad cyn ymgeisio ei ddilysu a bydd rhaid i'r ymgeisydd wneud yr ymarfer eto gan gydymffurfio â'r cyfarwyddyd
Mae 43.9% o'r boblogaeth yn Sir Gaerfyrddin yn siarad Cymraeg, o gymharu â chyfartaledd Cymru sef 20%. Mae'n bwysig bod yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal yn ddwyieithog fel bod yr ymgyngoreion yn cael cyfle i gymryd rhan yn y Gymraeg a'r Saesneg. Dylai'r datblygwyr:
- Gyhoeddi'r holl hysbysiadau a gohebiaeth yn y Gymraeg a'r Saesneg. Gellir cael ffurflenni templed yn Atodlen 1B y Gorchymyn
- Cynhyrchu dogfennau cyhoeddusrwydd ac ymgynghori yn y Gymraeg a'r Saesneg cymaint ag sy'n ymarferol bosibl
- Gwahodd ymatebion i'r ymgynghoriad yn y Gymraeg a'r Saesneg
- Sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn rhoi cyflwyniadau mewn digwyddiadau ymgynghori er mwyn siarad â'r ymgyngoreion a fyddai'n dymuno cyfathrebu drwy'r Gymraeg
Dylid gwneud ymdrechion rhesymol i ddod i gonsensws. Dylai'r Adroddiad egluro a nodi sut y mae'r cyfranogiad wedi arwain at gytundeb i fabwysiadu neu ddiwygio'r cynigion. Pan na fydd cytundeb yn bosibl, dylid egluro'r rhesymau a maint yr anghytundeb.
Dylai'r Adroddiad fod yn gynhwysfawr ac yn amlinellu gwybodaeth yn glir. Sicrhewch fod yr adroddiad ar gael ar wefan yr ymgynghoriad cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl ar ôl yr ymgynghoriad. Dylid rhoi adborth i'r gymuned ynghylch y newidiadau a wnaed i'r cais o ganlyniad i'r ymgynghoriad cyn ymgeisio.
Dylech fod yn ymwybodol y bydd yr Adroddiad Ymgynghori Cyn Ymgeisio ar gael yn gyhoeddus ar ein gwefan fel rhan o'r cais cynllunio. Felly dylech fod yn ofalus ynghylch materion diogelu data wrth gyfeirio at ymatebion i'r ymgynghoriad a manylion yr ymgyngoreion.
Mae darparu Adroddiad Ymgynghori Cyn Ymgeisio yn ofynnol er mwyn i'r cais fod yn ddilys, ac os na chydymffurfiwyd â'r canllawiau ar gyfer Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio bydd rhaid i'r ymgeisydd gynnal yr ymarfer eto gan gydymffurfio â'r canllawiau.
Cynllunio
Canllaw Cais Cynllunio
- Syniad Datblygu
- A oes arnaf angen Asiant Cynllunio?
- Gwybodaeth Allweddol
- Cam Cyn Ymgeisio
- Math o Gais Cynllunio
- Cyflwyno Cais
- Dilysu
- Cais Byw
- Pwyllgor Cynllunio
- Apeliadau
- Compliance / Enforcement
- Cwblhau Datblygiad
Brosiectau Cynllunio Mawr
Ymestyn / newid eich cartref
- Tystysgrif datblygiad cyfreithlon
- Gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio
- Caniatâd cynllunio deiliad tŷ
- Eiddo cyfagos / waliau cydrannol
- Ystlumod ac adar sy'n nythu
- Ardaloedd Cadwraeth
- Newidiadau i adeilad rhestredig
Chwiliwch am gais cynllunio
Torri rheolau cynllunio
Newid defnydd (Cynllunio)
Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (PAC)
Cyswllt cynllunio priffyrdd
Offeryn Asesu Model Hyfywedd Datblygu
Systemau Draenio Cynaliadwy
Gwnewch gais am arian Adran 106
Gorchymyn Datblygu Lleol (GDLl)
Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth
- Deall rhestru
- Pryd mae'n ofynnol cael caniatâd adeilad rhestredig?
- Addasiadau i Adeiladau Rhestredig
- Gwneud cais am ganiatâd adeilad rhestredig
- Beth sy'n digwydd ar ôl i benderfyniad ynghylch caniatâd adeilad rhestredig gael ei wneud
- Gwaith ar adeilad rhestredig heb ganiatâd
- Cynnal a chadw ac atgyweirio
- Ffynonellau gwybodaeth eraill
- Ardaloedd Cadwraeth
Cadwraeth a chefn gwlad
Enwi a rhifo strydoedd
Fy Un Agosaf - Gwybodaeth Cynllunio
Polisi Cynllunio
- Cynllun Datblygu Lleol 2006 - 2021
- Adroddiad Adolygu
- Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA)
- Tai Fforddiadwy
- Ardaloedd Tai Fforddiadwy
- Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB)
- Cyflenwad tir ar gyfer tai
- Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC)
Cynllun Datblygu Lleol 2018 - 2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
- Cytundeb Cyflawni
- Safleoedd Ymgeisio
- Archwiliad Annibynnol
- Dogfennau Cyflwyno
- Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Ail Adneuo
- Strategaeth a Ffefrir (Ymgynghoriad Cyhoeddus Cyn Adneuo)
- Datblygu sylfaen o dystiolaeth
- Cwestiynau cyffredin
- Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo Cyntaf
Ynni Adnewyddadwy
Cynllunio Ecoleg
Targedau ffosffad newydd
- Pa gamau ydym wedi eu cymryd?
- Cyfrifiannell Gorllewin Cymru
- Mesurau Lliniaru
- Y Camau Nesaf
- Cwestiynau Cyffredin Ffosfad
- Prosiect Dalgylch Arddangos Teifi
- “Effaith canllawiau CNC ar Asesiadau Amonia”
Bioamrywiaeth
- Pam mae bioamrywiaeth yn bwysig
- Rhywogaethau Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Cynefinoedd Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Partneriaeth Natur Sir Gaerfyrddin
- Prosiect Corsydd HLF
- Prosiect brithegion y gors
- Gwrychoedd
- Coetiroedd
- Pryfed Peillio
- Mynd yma ac acw!
- Deddfwriaeth a Chanllawiau
- Safleoedd Gwarchodedig
- Clefyd coed ynn
- Bywyd Gwyllt yn eich Ward
- Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
- Sefyllfa Byd Natur yn Sir Gaerfyrddin
Gwastraff
Mwy ynghylch Cynllunio