Ymestyn / newid eich cartref
3. Gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio
Os hoffech gael help gyda'ch cais am ganiatâd cynllunio deiliad tŷ, gallwch wneud cais am ein gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio.
Mae'r gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio yn costio £25 ar gyfer caniatâd cynllunio deiliad tŷ. Byddwn yn darparu ymateb ysgrifenedig i bob ymholiad dilys ynghylch cyngor cyn ymgeisio o fewn 21 diwrnod, oni chytunir ar estyniad amser rhwng yr awdurdod a'r ymgeisydd.
O leiaf, byddwch yn derbyn y wybodaeth ganlynol:
- Hanes cynllunio perthnasol y safle
- Polisïau'r cynllun datblygu perthnasol a ddefnyddir wrth asesu'r cynnig datblygu
- Canllawiau cynlluniau atodol perthnasol (h.y. dylunio, cadwraeth ac ati)
- Unrhyw ystyriaethau cynllunio perthnasol eraill
- Asesiad cychwynnol o'r datblygiad arfaethedig, ar sail y wybodaeth uchod