Ymestyn / newid eich cartref
7. Ardaloedd Cadwraeth
Mae Ardaloedd Cadwraeth wedi eu neilltuo er mwyn diogelu a gwella cymeriad arbennig ardaloedd sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol. Mae dyletswydd ar y Cyngor i ystyried neilltuo'r cyfryw ardaloedd o dan Adran 69 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990. Cânt eu dethol yn ôl ansawdd yr ardal yn gyffredinol, gan gynnwys cyfraniad allweddol adeiladau unigol neu grwpiau o adeiladau, coed, mannau agored a’r strydlun.
Diben dynodi Ardal Gadwraeth yw rhoi mesur ychwanegol o reolaeth i'r Cyngor ar ardal y mae'n barnu sydd o werth arbennig yn hanesyddol neu'n bensaernïol.
Nid yw hyn yn golygu na ellir cynnig datblygiadau, nac y bydd gwaith ar eich eiddo yn cael ei wrthod fel mater o drefn. Serch hynny, mae'n golygu y bydd y Cyngor yn rhoi sylw i effaith eich cynigion ar yr ardal dan sylw, yn ogystal â'u hasesiad arferol.
Os ydych yn byw mewn ardal gadwraeth, bydd arnoch angen caniatâd ardal gadwraeth i wneud y canlynol:
- Dymchwel adeilad sydd â chyfaint o fwy na 115 o fetrau ciwbig. Mae yna ychydig o eithriadau – gallwch gael mwy o wybodaeth gan y cyngor perthnasol.
- Dymchwel gât, ffens, wal neu reilin sy’n fwy nag un metr o uchder nesaf at briffordd (gan gynnwys llwybr troed cyhoeddus neu lwybr ceffylau) neu fan agored cyhoeddus; neu fwy na dau fetr o uchder mewn mannau eraill
- Mae yna rai eithriadau rhag y gofyniad cyffredinol i geisio caniatâd ardal gadwraeth i ddymchwel adeiladau mewn ardaloedd cadwraeth.
Cyfarwyddyd Erthygl 4
Efallai bod eich hawliau datblygu a ganiateir wedi cael eu tynnu gan " cyfarwyddyd Erthygl 4". O ganlyniad, bydd yn rhaid i chi gyflwyno cais cynllunio am waith nad oes angen caniatâd ar ei gyfer fel arfer.
Gwneir cyfarwyddiadau Erthygl 4 lle byddai cymeriad ardal o bwysigrwydd cydnabyddedig yn y fantol. Maent yn fwyaf cyffredin mewn ardaloedd cadwraeth.
Yn Sir Gaerfyrddin mae pedwar maes lle mae hyn yn berthnasol:
- Cwmdu
- Talacharn / Aber Taf
- Llanymddyfri
- Llangadog
Gallwch wneud cais am ganiatâd cynllunio mewn ardal gadwraeth ar wefan Cais Cynllunio Cymru.