Strategaeth a Ffefrir (Ymgynghoriad Cyhoeddus Cyn Adneuo)
Diweddarwyd y dudalen ar: 31/08/2023
Mae'r Cyngor wedi creu dogfen ddrafft o'r Strategaeth a Ffefrir ar gyfer CDLl Diwygiedig Sir Gaerfyrddin. Mae'r ddogfen ddrafft o'r Strategaeth a Ffefrir yn amlinellu materion, gweledigaeth ac amcanion y Cynllun yn ogystal â'r lefel o dwf a ffefrir a'r strategaeth ofodol a ffefrir. Mae'n nodi dau Safle Strategol a 19 o Bolisïau Strategol.
Y Strategaeth a Ffefrir yw'r cyhoeddiad ffurfiol cyntaf yn y broses o baratoi CDLl ac mae'n darparu'r fframwaith strategol ar gyfer y polisïau, y cynigion a'r dyraniadau datblygu manylach yn y Cynllun Drafft Adneuo.
Daeth yr ymgynghoriad ar gyfer y Drafft o'r Strategaeth a Ffefrir a'r Gwahoddiad ar gyfer Safleoedd Tywod a Graean i ben ym mis Chwefror 2019. Mae'r ymatebion a gafwyd mewn perthynas â'r ymgynghoriadau wedi cael eu hystyried wrth baratoi'r Cynllun Adneuo.