Rhywogaethau Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru restr o rywogaethau yng Nghymru y maen nhw’n eu hystyried yn arwyddocaol iawn ar gyfer cynnal a chyfoethogi bioamrywiaeth y wlad. Mae gan Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill ddyletswydd i gymryd pob cam rhesymol i ofalu am a chyfoethogi’r rhywogaethau hyn [Deddf Amgylchedd (Cymru) 2016].
Yn Sir Gaerfyrddin mae gennym lawer o’r rhywogaethau blaenoriaeth hyn – mae rhai’n gyffredin ac eraill yn fwy prin. Mae ein rhywogaethau brodorol wedi dylanwadu ar hunaniaeth ddiwylliannol Sir Gaerfyrddin. Mae anifeiliaid a phlanhigion wedi dylanwadu ar enwau llawer o ffermydd, tai a strydoedd yn y sir. Mae rhai’n gyffredin o hyd (eithin), mae rhai’n brin erbyn hyn (ysgyfarnogod) ac mae’r blaidd a’r baedd gwyllt wedi hen ddiflannu o’n cefn gwlad.
Mae nifer o fudiadau yn gweithio yn y sir i ofalu am a chyfoethogi’r cynefinoedd hyn. Os yw’r rhywogaethau hyn yn mynd i ffynnu, mae’n rhaid i fudiadau ac unigolion weithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth - gan gynnwys tir berchnogion, asiantaethau llywodraeth, grwpiau cadwraeth bywyd gwyllt, awdurdodau lleol a diwydiant. Yn ogystal â rhoi sylw i ofynion rheoli penodol ar gyfer y rhywogaethau hyn, mae angen inni:
- cynyddu ymwybyddiaeth o'r rhywogaethau hyn a'r materion sy'n effeithio arnynt.
- clustnodi safleoedd newydd ar gyfer cynnal arolygon yn y sir.
- hybu diddordeb gwirfoddolwyr mewn cofnodi rhywogaethau.
- defnyddio rhywogaethau allweddol yn ganolbwynt ar gyfer ymwneud â'r cyhoedd/ysgolion.
Rhywogaethau Ymledol Heb Fod yn Rhai Brodorol (INNS) yw planhigion, anifeiliaid a micro-organebau a gyflwynwyd i rannau o’r byd lle na fyddent i’w gweld yn naturiol. Mae ganddynt y gallu i ymledu, gan greu difrod i’r amgylchedd, yr economi, ein hiechyd a’n ffordd o fyw. INNS yw’r ail fygythiad mwyaf i fioamrywiaeth ar ôl colli a darnio cynefinoedd. Amcangyfrifwyd fod INNS yn costio o leiaf £1.8 biliwn i economi’r DU bob blwyddyn. Yn Sir Gaerfyrddin mae Clymog Japan, Jac y Neidiwr a minc oll wedi cael effeithiau o bwys ar gynefinoedd a rhywogaethau gwarchodedig yma.
Hoffech chi wybod mwy? Lawrlwythwch wybodaeth fanylach am ein rhywogaethau â blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin.
Cynllunio
Chwilio am gais cynllunio
Cyflwyno sylwadau ar gais cynllunio
Cyflwyno cais cynllunio
Caniatâd cynllunio i berchnogion tai
Gwasanaeth cyn cyflwyno cais
Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (PAC)
Cyswllt cynllunio priffyrdd
Adeiladu tŷ newydd
Sut y gwneir penderfyniadau cynllunio
Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy (SAB)
Gorfodi cynllunio
Apeliadau cynllunio
Polisi Cynllunio
- Cynllun Datblygu Lleol 2006 - 2021
- Adroddiad Adolygu
- Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA)
- Tai Fforddiadwy
- Ardaloedd Tai Fforddiadwy
- Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB)
- Cyflenwad tir ar gyfer tai
- Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC)
Fy Un Agosaf - Gwybodaeth Cynllunio
Cyngor ecoleg
Adeiladau rhestredig
- Deall rhestru
- Pryd mae'n ofynnol cael caniatâd adeilad rhestredig?
- Addasiadau i Adeiladau Rhestredig
- Gwneud cais am ganiatâd adeilad rhestredig
- Beth sy'n digwydd ar ôl i benderfyniad ynghylch caniatâd adeilad rhestredig gael ei wneud
- Gwaith ar adeilad rhestredig heb ganiatâd
- Cynnal a chadw ac atgyweirio
- Ffynonellau gwybodaeth eraill
Enwi a rhifo strydoedd
Ynni Adnewyddadwy
Cynllun Datblygu Lleol 2018 - 2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd a Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
- Cytundeb Cyflawni
- Safleoedd Ymgeisio
- Adroddiad yr Arolygydd a Mabwysiadu'r Cynllun
- Cyflwyno'r Cynllun, ac Archwiliad Annibynnol
- Cynllun Adnau
- Strategaeth a Ffefrir (Ymgynghoriad Cyhoeddus Cyn Adneuo)
- Datblygu sylfaen o dystiolaeth
- Cwestiynau cyffredin
Caniatâd cynllunio i ddatblygwyr
Canol Tref Llanelli Gorchymyn Datblygu Lleol (GDLl)
Gwnewch gais am arian Adran 106
Cadwraeth a chefn gwlad
Gwastraff
Bioamrywiaeth
- Pam mae bioamrywiaeth yn bwysig
- Rhywogaethau Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Cynefinoedd Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Partneriaeth Natur Sir Gaerfyrddin
- Prosiect Corsydd HLF
- Prosiect brithegion y gors
- Gwrychoedd
- Coetiroedd
- Pryfed Peillio
- Mynd yma ac acw!
- Deddfwriaeth a Chanllawiau
- Safleoedd Gwarchodedig
- Cyfeirlyfr bioamrywiaeth
- Map o’r prosiectau bioamrywiaeth
- Clefyd coed ynn
Cwestiynau Cyffredin - Cynllunio
Mwy ynghylch Cynllunio