Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Pholisi Cynllunio Cymru - Rhifyn 11 (PCC 11) yn ei gwneud yn ofynnol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol geisio gwella bioamrywiaeth drwy'r broses gynllunio; mae'r angen i nodi gwelliannau bioamrywiaeth wedi'i egluro yn y llythyr gan Lywodraeth Cymru at Benaethiaid Cynllunio Awdurdodau Cynllunio Cymru dyddiedig 23 Hydref 2019 sy'n nodi:
Mae Polisi Cynllunio Cymru (PCC 11) yn nodi bod "rhaid i awdurdodau cynllunio geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth wrth arfer eu swyddogaethau. Mae hynny’n golygu na ddylai datblygu arwain at gollediad mawr i gynefinoedd na phoblogaethau o rywogaeth, yn lleol nac yn genedlaethol, a rhaid iddo esgor ar fanteision net i fioamrywiaeth" (paragraff 6.4.5). Mae'r polisi hwn a'r polisïau dilynol ym Mhennod 6 o PCC 11 yn ymateb i Ddyletswydd Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
…..‘lle na chynigir gwella bioamrywiaeth fel rhan o gais, rhoddir pwysau sylweddol i'w absenoldeb, ac oni bai bod ystyriaethau perthnasol arwyddocaol eraill yn nodi fel arall bydd angen gwrthod caniatâd.
Mae'n bwysig bod ystyriaethau bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau yn cael eu hystyried yn gynnar wrth baratoi cynlluniau datblygu ac wrth gynnig neu ystyried cynigion datblygu. Dylai awdurdodau cynllunio fod yn rhagweithiol ac ymgorffori polisïau priodol mewn cynlluniau datblygu lleol i ddiogelu rhag colli bioamrywiaeth a sicrhau gwelliannau.
Dylid defnyddio priodoleddau cydnerthedd ecosystemau (mae PCC 11 paragraff 6.4.9 p.138 yn cyfeirio at hyn) i asesu cydnerthedd presennol safle, a rhaid cynnal a gwella hyn ar ôl datblygu. Os na ellir cyflawni hyn, dylid gwrthod caniatâd ar gyfer y datblygiad.
Mae sicrhau budd net i fioamrywiaeth yng nghyd-destun Polisi Cynllunio Cymru yn gofyn am ymateb pragmatig i amgylchiadau penodol y safle. Wrth weithio drwy'r dull fesul cam (PCC 11 paragraff 6.4.21), os na ellir osgoi colli bioamrywiaeth yn llwyr (h.y. cynnal bioamrywiaeth), a bod hyn wedi'i leihau gymaint â phosibl, mae'n ddefnyddiol meddwl am fudd net fel cysyniad i wneud iawn am golled ac i chwilio am gyfleoedd i wella a'u cyflawni. Gellir sicrhau budd net i fioamrywiaeth trwy greu cynefinoedd a/neu drefniadau rheoli hirdymor i wella cynefinoedd sy'n bodoli eisoes, i wella bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau. Nid yw sicrhau budd net i fioamrywiaeth o reidrwydd yn feichus; trwy ddeall y cyd-destun lleol, mae'n bosibl nodi cyfleoedd newydd i wella bioamrywiaeth.
Cyhoeddwyd Polisi Cynllunio Cenedlaethol wedi'i ddiweddaru ar gyfer Pennod 6 o Bolisi Cynllunio Cymru ar 18 Hydref 2023 (llythyr y Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd at Benaethiaid Cynllunio, 11 Hydref 2023 ac Atodiad i'r Llythyr at Benaethiaid Cynllunio, Polisi Cynllunio Cenedlaethol wedi'i ddiweddaru ar gyfer Pennod 6 Polisi Cynllunio Cymru, 11 Hydref 2023). Yn y canllawiau hyn sydd wedi'u diweddaru, dylid cyflwyno Datganiad Seilwaith Gwyrdd gyda'r holl geisiadau cynllunio.