Cynefinoedd Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin

Diweddarwyd y dudalen ar: 31/08/2023

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru restr o fathau o gynefinoedd yng Nghymru y maen nhw’n eu hystyried yn arwyddocaol iawn ar gyfer cynnal a chyfoethogi bioamrywiaeth y wlad. Mae gan Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill ddyletswydd i gymryd pob cam rhesymol i ofalu am a chyfoethogi’r cynefinoedd hyn [Deddf Amgylchedd (Cymru) 2016].

Yn Sir Gaerfyrddin mae gennym lawer o’r cynefinoedd blaenoriaeth hyn  – mae rhai’n gyffredin ac eraill yn fwy prin. Mae ein ‘hecosystemau’, e.e. coetiroedd, afonydd a phorfeydd yn rhoi inni fanteision o bob math megis bwyd, dŵr ac awyr lân. Maent hefyd yn dylanwadu ar hunaniaeth ddiwylliannol Sir Gaerfyrddin, yn cyfrannu at ein hiechyd meddyliol a chorfforol ac yn helpu ein hysbrydoli a’n haddysgu.

Mae nifer o fudiadau yn gweithio yn y sir i ofalu am a chyfoethogi’r cynefinoedd hyn. Os yw’r cynefinoedd hyn yn mynd i ffynnu, mae’n rhaid i fudiadau ac unigolion weithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth - gan gynnwys tir berchnogion, asiantaethau llywodraeth, grwpiau cadwraeth bywyd gwyllt, awdurdodau lleol a diwydiant.

Hoffech chi wybod mwy? Lawrlwythwch wybodaeth fanylach am ein cynefinoedd â blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin

Cynllunio