Ymweliadau safle

Diweddarwyd y dudalen ar: 04/09/2023

Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i'w roi rhybudd yn ystod y camau canlynol y gwaith:

  • Dechrau ar y Gwaith - 48 awr o rybudd
  • Cloddio’r Seiliau - 24 awr o rybudd
  • Concrid ar gyfer seiliau - 24 awr o rybudd
  • Cwrs diogelu rhag lleithder - 24 awr o rybudd
  • Tros-safle - 24 awr o rybudd
  • Archwilio’r draeniau cam 1 (dwr aflan a dwr wyneb) - 24 awr o rybudd
  • Archwilio’r draeniau cam 2 - Not more than 5 days after completion of drains
  • Occupation - At least 5 days before
  • Completion - Dim mwy na 5 niwrnod ar ôl cwblhau’r draeniau

Efallai y byddwn hefyd yn dymuno archwilio'r elfennau canlynol o'r gwaith cyn gorchuddio:

  • Distiau llawr, adeiladwaith y to ac adeiladwaith dur

Os gwnewch eich cais am ymweliad cyn 10.00 y bore, gallwn fel arfer archwilio'r gwaith ar yr un diwrnod. Pan fydd y gwaith wedi ei gwblhau, dylai eich adeiladwr ein hysbysu er mwyn galluogi archwiliad terfynol gael ei wneud ac i cyhoeddi Tystysgrif Cwblhau. Mae Tystysgrif Cwblhau yn hynod o bwysig yn enwedig os yw'r eiddo yn newid dwylo, gan fod prynwyr am wybod os yw estyniadau neu newidiadau wedi'u cwblhau yn foddhaol neu beidio.

Beth gallwch chi ei ddisgwyl gennym ni

Byddwn ni'n darparu gwasanaeth proffesiynol a dibynadwy. Mae gan ein Syrfewyr Rheoli Adeiladu profiadol wybodaeth leol a thechnegol helaeth. Rydym yn cynnig cyngor ac arweiniad am ddim i'r holl ymgeiswyr a gwasanaeth archwilio ar yr un diwrnod os gwneir cais am hynny cyn 10am. Gallwn ni gysylltu ag Adrannau eraill o fewn y Cyngor ac awdurdodau statudol gan gynnwys Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.