Cais am hysbysiad adeiladu
Diweddarwyd y dudalen ar: 02/07/2026
O'r ddau ddull o roi hysbysiad, hwn yw’r un symlaf. Mae hysbysiadau adeiladu yn caniatáu i waith gael ei wneud heb ichi orfod cyflwyno cynlluniau llawn. Maent yn addas ar gyfer gwaith bach ac yn eich galluogi i ddechrau ar waith yn gyflym. Gellir eu defnyddio ar gyfer y rhan fwyaf o waith adeiladu domestig.
Ni ellir eu defnyddio ar gyfer siopau na swyddfeydd, nac ar gyfer codi adeilad newydd mewn stryd breifat. Yn ogystal, ni ellir eu defnyddio ar gyfer gwaith yn agos at neu ar ben carthffos.
Nid oes angen cynlluniau manwl bob tro ar gyfer y math hwn o gais. ae'n rhaid llenwi ffurflen gais hysbysiad adeiladu a'i chyflwyno ynghyd â chynllun lleoliad. Mae taliadau'n daladwy wrth gyflwyno eich cais.
Anfanteision Hysbysiad Adeiladu:
- Mae'n rhaid ichi fod yn hyderus bod y gwaith yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu presennol neu mae perygl y bydd yn rhaid ichi ei gywiro ar ôl archwiliad.
- Ni fydd Hysbysiad Cymeradwyo yn cael ei gyflwyno.
- Mae'n bosibl na fydd Hysbysiad Adeiladu'n cael ei dderbyn at ddibenion cael morgais.
Mae'n rhaid bod y canlynol wedi eu nodi'n glir ar yr holl gynlluniau - bar graddfa, dimensiynau allweddol, cyfeiriad y gogledd, graddfa a maint gwreiddiol y papur (e.e. 1:200 ar A3). Er nad yw'n orfodol, byddai cyflwyno cynlluniau a lluniadau maint A3 yn ein helpu i brosesu eich cais yn fwy effeithlon. Er enghraifft, ystyriwch roi llai o weddluniau ar dudalennau llai o faint, hyd yn oed os yw'n golygu cyflwyno rhagor o ddogfennau.
Ffurflenni Ar-lein
Sylwch fod ein ffurflenni ar-lein ar hyn o bryd ddim ar gael oherwydd newidiadau a gyflwynwyd ar 1 Gorffennaf 2026. Rydym yn gweithio i'w hadfer cyn gynted â phosib.
