Cais rheoleiddio
Diweddarwyd y dudalen ar: 22/10/2024
Os ydych wedi gwneud gwaith heb gael caniatâd rheoliadau adeiladu gallwch wneud cais am ganiatâd ôl-weithredol. Rheoleiddio y gelwir y broses hon. Mae hyn yn berthnasol i'r holl waith a wnaed ar ôl 11 Tachwedd 1985.
Os nad ydych chi'n cael caniatâd, mae'n bosibl y cewch broblemau wrth ail-forgeisio neu werthu'r eiddo. Yn ogystal, mae'n bosibl y bydd problemau o ran iechyd a diogelwch.
Y Weithdrefn Reoleiddio
Y cam cyntaf fydd cyflwyno ffurflen gais am reoleiddio atom, ynghyd â’r ffi berthnasol.
Wedyn bydd angen i chi roi galwad i ni i drefnu ein bod yn archwilio’r gwaith a wnaed. Yn dibynnu ar y math o waith dan sylw gall fod angen i chi amlygu peth ohono. Er enghraifft, os tynnwyd brestyn simnai, bydd angen amlygu’r cynheiliaid, ac os codwyd estyniad, bydd angen amlygu’r sylfeini.
Unwaith mae’r gwaith wedi cael ei archwilio a gall yr arolygydd gadarnhau ei fod yn cydymffurfio â’r rheoliadau adeiladu, rhoddir tystysgrif reoleiddio. Mae hon yn debyg i dystysgrif gwblhau, sydd weithiau’n cael ei rhoi ar ôl cwblhau gwaith a wnaed gyda chaniatâd. Os oes angen gwneud gwaith adfer, caiff hyn ei amlygu, ac ar ôl cwblhau’r gwaith, rhoddir tystysgrif rheoliadau.
Mewn rhai achosion prin gall fod yn bosibl i’r Cyngor anfon llythyr atoch yn cadarnhau na chymerir camau gorfodi pellach lle nad oes modd amlygu’r gwaith a wnaed ar eich eiddo. Mae hyn yn arbennig o wir os gwnaed y gwaith amser hir yn ôl, felly gall fod yn berthnasol yn bennaf i waith a wnaed cyn 1985.
Mwy ynghylch Rheoli Adeiladu