Cais am waith trydanol
Diweddarwyd y dudalen ar: 04/09/2023
Mae’r rheoliadau Rhan P newydd, sy’n ymwneud â gwaith trydanol, yn berthnasol i dai a fflatiau annedd yn bennaf, gan gynnwys gerddi, tai allan fel siediau, garejis ar wahân a thai gwydr. Cyflwynwyd rheolau hyn i leihau nifer y marwolaethau, anafiadau a thanau a achosir gan osodiadau trydanol diffygiol ac i rwystro adeiladwyr anghofrestredig rhag gadael gosodiadau trydanol mewn cyflwr anniogel.
Os nad ydych yn dilyn y Rheoliadau Adeiladu newydd:
- Efallai na fydd y gwaith trydanol a wnaed yn ddiogel
- Gallwch brofi anhawster wrth werthu eich cartref os nad ydych yn meddu ar y tystysgrifau cywir
- Gallwn fynnu eich bod yn cywiro gwaith diffygiol
Gwaith y mae angen cymeradwyaeth ar ei gyfer yn cynnwys sy’n cynnwys ychwanegu cylched newydd neu waith trydanol yn y lleoliadau canlynol:
- Ceginau,
- Ystafelloedd ymolchi, lleoliadau sy’n cynnwys cyfleuster bath neu gawod
- Pyllau nofio neu byllau padlo
- Sawnau
- Systemau gwresogi trydan ar y llawr neu’r nenfwd
- Goleuadau neu osodiadau pŵer yn yr ardd
- Generaduron graddfa fach fel micro-unedau gwres a phŵer cyfunedig.
- Gosodiadau golau foltedd isel iawn, ac eithrio setiau golau parod â marc CE
Bydd angen gwneud cais dan y Rheoliadau Adeiladu oni bai bod y gwaith yn cael ei wneud gan drydanwr sydd wedi’i gofrestru dan y Cynllun Person Cymwys.
Rheoli Adeiladu
Mwy ynghylch Rheoli Adeiladu