Help i Bleidleiswyr Anabl

Diweddarwyd y dudalen ar: 01/03/2024

Rydym yn ceisio gwneud ein holl orsafoedd pleidleisio yn hygyrch i gadeiriau olwyn a gallwn ddarparu rampiau lle bo angen.

Yn ogystal â hyn:

  • Mae gan bob gorsaf bleidleisio fwth pleidleisio wedi'i addasu ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn
  • Mae fersiynau print mawr o bapur(au) pleidleisio ar gael ym mhob gorsaf bleidleisio, ynghyd â chymhorthion i alluogi pleidleiswyr dall i nodi eu papurau pleidleisio heb gymorth
  • Os ydych chi'n bleidleisiwr Anabl ac mae angen cymorth arnoch i gwblhau papur pleidleisio ar eich pen eich hun, gallwch fynd â ffrind neu berthynas i'r orsaf bleidleisio i'ch cynorthwyo
  • Gall y Swyddog Llywyddu yn yr orsaf bleidleisio eich helpu chi i lenwi'ch papur pleidleisio
  • Dyfais Bleidleisio Gyffyrddadwy ar gyfer pobl â nam ar eu golwg
  • Chwyddwydrau Mawr
  • Gripiau pensil
  • Dalen droshaen asetad lliw i leihau straen gweledol
  • Cadeiriau i bobl na allant sefyll am gyfnodau hir

Os nad ydych chi am fynd i'r orsaf bleidleisio, gallwch bleidleisio drwy'r post, a gall pleidleiswyr sydd ag anabledd gael pleidlais ddirprwy barhaol (dyma lle rydych chi'n enwebu rhywun i bleidleisio ar eich rhan yn eich gorsaf bleidleisio).

 

Ffurflenni pleidleisio post neu ddirprwy

Mae canllawiau a ffurflenni cais post a ddirprwy ar gael i'w lawrlwytho o wefan y Comisiwn Etholiadol neu drwy gysylltu â'r Gwasanaethau Etholiadol.

 

Gwybodaeth i bleidleiswyr anabl

Mae gan bob pleidleisiwr hawl i bleidleisio'n annibynnol ac yn ddirgel. Bellach mae'n rhaid i awdurdodau lleol ym Mhrydain Fawr gymryd camau rhagweithiol i sicrhau nad yw gorsafoedd pleidleisio yn rhoi pobl anabl dan anfantais.

Darllenwch ragor am hawliau pleidleisio pobl anabl.

Mae Mencap wedi darparu pecyn adnoddau i helpu pobl sydd ag anabledd dysgu i ddeall pleidleisio a gwleidyddiaeth.

Mae gan Gov.uk gwybodaeth i helpu pobl ag anabledd dysgu a'u gweithwyr cymorth i ddeall beth yw pleidleisio, pam ei fod mor bwysig, a sut gallwch chi bleidleisio.

 

Eich Pasbort Pleidleisio am ddim

Dylai Gorsafoedd Pleidleisio ddarparu mynediad i bobl anabl, a dylai’r staff helpu i wneud addasiadau rhesymol er mwyn i bobl ag anableddau allu pleidleisio.

Efallai y bydd yn rhaid i chi siarad â staff yr orsaf bleidleisio am ba gymorth hoffech chi ei gael.

Mae'n bwysig cofio bod gan bawb sydd ag anabledd dysgu yr hawl i bleidleisio a chyhyd â'u bod yn gallu mynegi dros bwy maen nhw'n dymuno pleidleisio, gall rhywun gwblhau'r papur pleidleisio ar eu rhan. Gallwch fynd â'n Pasbort Pleidleisio i'r orsaf bleidleisio i ddangos i staff yr orsaf bleidleisio pa fath o gymorth hoffech chi ei gael.

I ofyn am Basbort Pleidleisio am ddim, anfonwch e-bost at gwasanaethauetholiadol@sirgar.gov.uk gan nodi eich enw ac i ble y dylem anfon y Pasbort Pleidleisio neu siaradwch ag aelod o'r tîm etholiadau drwy ffonio 01267 228889. Yna byddwn yn anfon Pasbort Pleidleisio am ddim atoch chi fel y gallwch ei ddefnyddio pan fydd etholiadau'n cael eu cynnal.

Cyngor a Democratiaeth