Pam yr ydym wedi ymgynghori
Ym mis Gorffennaf/Awst 2024, cynhaliodd Tîm Gwyrddu Sir Gâr Arolwg Rhandiroedd a Thyfu Cymunedol ledled y sir a ariannwyd gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Amcanion yr arolwg oedd:
- Nodi'r angen a'r diddordeb mewn darpariaeth rhandiroedd a thyfu cymunedol ar draws y sir.
- Deall manteision canfyddedig o dyfu.
- Nodi rhwystrau allweddol i gyfranogiad.
- Tynnu sylw at gyfleusterau allweddol sydd eu hangen i gynyddu ymgysylltiad.
Pwrpas yr arolwg oedd cyfrannu at y sylfaen dystiolaeth ynghylch tyfu o fewn y sir a llywio cynllunio strategol yn y dyfodol o safbwynt rhandiroedd a thyfu cymunedol.
Canlyniad yr ymgynghoriad
Bydd canfyddiadau’r arolwg yn cael eu defnyddio i adeiladu ar y sylfaen dystiolaeth bresennol a llywio datblygiadau strategol pellach mewn rhandiroedd a thyfu cymunedol ar draws y sir. Bydd yr adroddiad hwn yn cael ei rannu’n gyhoeddus drwy wefan yr awdurdod lleol, yn ogystal ag yn uniongyrchol â chynghorau tref a chymuned, rhanddeiliaid a chyfranogwyr a oedd yn dymuno cael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yr arolwg drwy e-bost.