Pam yr ydym wedi ymgynghori
Yr haf diwethaf, cymerodd 3,943 ohonoch ran mewn arolwg trigolion i ddweud wrthym:
- Sut rydych chi'n teimlo amdanom ni fel Cyngor a'n perfformiad,
- Beth oedd yr heriau mwyaf enbyd i chi a’ch teuluoedd; a
- Sut y byddech chi'n blaenoriaethu meysydd ar gyfer buddsoddi.
Mae'r wybodaeth rydych chi'n ei rhannu gyda ni yn hanfodol bwysig gan ei bod yn ein helpu i ddod i'ch adnabod chi'n well a datblygu dealltwriaeth o'r hyn sydd bwysicaf i chi a'ch teuluoedd. Ein bwriad felly yw cynnal yr un arolwg yn rheolaidd i fonitro sut mae eich barn yn newid dros amser.
Mae'n gyfnod heriol i lawer, ac nid yw'r Cyngor yn ddiogel rhag yr heriau hyn. Rydym yn wynebu cyfnod o alw cynyddol am ein gwasanaethau mewn cyfnod lle mae adnoddau (ariannol ac fel arall) yn gostwng. Ein blaenoriaeth bob amser oedd gwneud y gorau i'n trigolion a'n defnyddwyr gwasanaeth, ond mae'n rhaid i ni i gyd fod yn realistig ynghylch sut olwg sydd ar hynny yn y dyfodol. Bydd eich ymgysylltiad parhaus â ni yn rhoi'r cyfle gorau i ni ddarparu gwasanaethau sy'n diwallu eich anghenion.
Canlyniad yr ymgynghoriad
Mae prif ganfyddiadau'r arolwg ar gyfer 2023 wedi'u rhannu ar draws y sefydliad ac mae trafodaethau wedi'u cynnal am y canlyniadau. Manylir isod ar y prif ganfyddiadau a'r angen am ddatblygiad ynghyd ag unrhyw gamau gweithredu a gweithgarwch rydym yn bwriadu eu cymryd mewn ymateb i hynny.
Canfyddiad | Beth mae hyn yn ei olygu? | Beth ydym ni'n ei wneud ynghylch y mater? |
---|---|---|
Datblygu ymhellach gyfathrebu clir, wedi'i dargedu. | Rydym yn teimlo y gallwn wneud mwy ac archwilio gwahanol ffyrdd o rannu gwybodaeth â thrigolion a defnyddwyr gwasanaeth am ein gwasanaethau, sut a pham rydym yn defnyddio adnoddau yn y ffordd rydym yn ei wneud a'n perfformiad yn fwy cyffredinol. |
Byddwn yn rhannu gwybodaeth am ein perfformiad mewn perthynas â meysydd gwasanaeth allweddol yn fwy rheolaidd. Bydd y wybodaeth hon yn dryloyw ac yn ystyrlon. Byddwn yn adolygu'r ffordd rydym yn rhannu gwybodaeth am sut rydym yn defnyddio ein hadnoddau. Er mwyn datblygu cyd-ddealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhyngom ni a chi, byddwn yn darparu mwy o wybodaeth sy'n nodi canlyniadau realistig sy'n ymwneud â'r hyn y gallwn ei gyflawni a phryd y gallwn ei gyflawni. Byddwn yn cyfathrebu hyn yn glir ac mewn modd amserol. |
Darparu gwasanaethau ac ymyrraeth wedi'u targedu ar sail lleoliad |
Fel rhan o'r arolwg, fe ofynnon ni ym mha rannau o'r sir rydych chi'n byw. Mae hyn wedi ein galluogi i ddeall pa ardaloedd y mae materion penodol yn gysylltiedig â nhw. Yn bwysicaf oll, gallwn nawr ganolbwyntio ein hymdrechion ar rai o'r prif ardaloedd o ran angen, sy'n sicrhau ein bod yn defnyddio ein hadnoddau yn y ffordd gywir. Dyma rai o'r materion allweddol a amlygwyd gennych:
|
Mae canolfannau Hwb y Cyngor ar draws y sir a 'Hwb Fach y Wlad' yn darparu cymorth ac arweiniad i drigolion sydd â phryderon yn ymwneud â'r argyfwng costau byw. Mae'r ddarpariaeth hon yn un elfen o Gynllun Trechu Tlodi ehangach y Cyngor. Nod ein menter newydd 'Tîm Tacluso', 'Tacluso ein trefi' yn ceisio gwella glendid a golwg canol ein trefi. Mae'r fenter yn cynnwys rhaglen waith a fydd yn cael ei chynnal dros y misoedd nesaf. Mae gweledigaeth economaidd newydd yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ar gyfer y Sir. Bydd y themâu a drafodir yn cynnwys creu swyddi, cymorth i fusnesau, denu buddsoddiad a manteisio ar dueddiadau a thechnolegau newydd a datblygol i annog twf economaidd. |
Sylw penodol ar faterion penodol |
Mae nifer o'r materion a amlygwyd gennych yn gymhleth a sylweddol ac felly mae'n briodol i'w harchwilio ymhellach drwy barhau i ymgysylltu â chi a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu datganiadau sefyllfa, grwpiau gorchwyl a gorffen neu weithio mewn partneriaeth. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i'r themâu canlynol:
|
Byddwn yn cydweithio â phartneriaid i ddatblygu strategaeth atal a chynllun gweithredu ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y cymorth iawn ar yr adeg iawn. Mae Fframwaith Atal Cymunedol wedi’i lansio sy’n darparu un pwynt cyswllt i gefnogi lles. Mae yna hefyd blatfform digidol ‘Cysylltu Sir Gâr’ sydd wedi’i gynllunio i ddarparu gwybodaeth am wasanaethau cymorth, gwybodaeth leol a digwyddiadau cymunedol ar draws y Sir. Byddwn yn gweithio gyda'r Bwrdd Iechyd i ddarparu lefelau hygyrch a phriodol o gymorth i bawb sydd â phroblemau Iechyd Meddwl gan ehangu mynediad a chymorth i Blant ac Oedolion Agored i Niwed. Rydym yn ymchwilio i ddatblygu Strategaeth Trafnidiaeth Gymunedol ar gyfer y sir. Mae'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Adfywio a Datblygu Tai yn cadarnhau ein hymrwymiad i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy o ansawdd da ac ynni-effeithlon. Byddwn yn:
|
Gwella aliniad â chynllunio busnese | Gellir gwella amseriad yr arolwg er mwyn caniatáu gwell aliniad â gweithdrefnau cynllunio mewnol yn y dyfodol. | Byddwn yn alinio amseriad yr arolwg a dosbarthiad y canlyniadau'n fewnol yn well er mwyn caniatáu digon o amser i adrannau ystyried y canfyddiadau fel rhan o'u gweithgaredd cynllunio busnes yn y dyfodol. Bydd hyn yn sicrhau bod barn trigolion yn llywio cynlluniau gwaith yn y dyfodol a'r gwaith o osod blaenoriaethau. |