Pam yr ydym wedi ymgynghori

Mewn oes sy'n cael ei harwain gan arloesedd technolegol, mae'n hanfodol i lywodraeth leol addasu a chroesawu trawsnewidiad digidol.

Ar hyn o bryd rydym yn datblygu Strategaeth Ddigidol newydd, sydd i'w lansio ar 1 Ebrill 2024 fydd ar waith tan 31 Mawrth 2027.  

Diben y strategaeth hon yw nodi'r weledigaeth ar gyfer sut mae preswylwyr, busnesau, aelodau etholedig, staff, partneriaid ac ymwelwyr yn parhau i elwa o fabwysiadu technoleg sy'n dod i'r amlwg a thrawsnewid gwasanaethau ledled ein sir.

Gyda’n gilydd, gan ddefnyddio digidol, data a thechnoleg, gallwn barhau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus sy’n addas i’r diben ac yn ymateb i anghenion ein sir. Mae eich llais yn bwysig, ac mae eich syniadau’n gallu gwneud gwahaniaeth.

Nod yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn yw casglu mewnwelediadau hanfodol gennych chi fel ein cwsmeriaid. Bydd eich adborth yn ein galluogi i ddylunio strategaeth ddigidol gadarn a fydd yn grymuso Sir Gaerfyrddin i wasanaethu ein preswylwyr a'n busnesau yn well wrth symleiddio ein gweithrediadau i ddarparu gwasanaethau mwy effeithiol ac effeithlon.

Drwy gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn, bydd eich cyfranogiad a'ch mewnwelediadau yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio strategaeth ddigidol flaengar sy'n canolbwyntio ar bobl a fydd yn datgloi posibiliadau ac effeithlonrwydd newydd er budd i chi fel ein cwsmeriaid a'r ystod eang o wasanaethau digidol y gallwn eu cynnig.

 

Canlyniad yr ymgynghoriad

Bydd y wybodaeth a gesglir yn cael ei dadansoddi gan Uwch Reolwyr y Gwasanaethau Digidol gyda'r bwriad o helpu i lunio/diffinio ac ymgorffori cymaint o adborth wrth lunio ein strategaeth; helpu i ddiffinio ein nodau/amcanion, meysydd ffocws, prosiectau/meysydd posibl y gallwn roi blaenoriaeth iddynt.

Bydd y data ymgynghori hwn yn rhoi cipolwg pellach i ni ar weithgarwch digidol ein trigolion a busnesau a heriau / rhwystrau ac ati. Disgwylir i'r Strategaeth Ddigidol ar gyfer Sir Gaerfyrddin 2024-2027 gael ei chwblhau erbyn mis Ionawr 2024, ac yna mynd drwy'r broses gymeradwyo Gorfforaethol ac Aelodau ar gyfer ein Strategaeth rhwng Ionawr-Mawrth 2024 i'w chymeradwyo.

Unwaith y caiff ei chymeradwyo, bydd y Strategaeth yn weithredol o 1 Ebrill 2024 am 3 blynedd. Byddwn yn anelu at gyhoeddi'n gyflym trwy Wefan y Cyngor yn ddwyieithog a hyrwyddo trwy ein Sianeli Cyfryngau Cymdeithasol. Bydd Adroddiadau Blynyddol hefyd yn cael eu cyflwyno i'n Tîm Rheoli Corfforaethol ac Aelodau a byddwn yn ceisio ymgorffori adborth pellach gan gwsmeriaid i sicrhau ein bod yn ymgysylltu â'r cyhoedd a busnesau drwy gydol y broses o gyflawni'r strategaeth newydd hon.