Pam yr ydym wedi ymgynghori
Mae Adran 10.7 o Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i bob Awdurdod Lleol gyhoeddi ei strategaeth leol ar gyfer rheoli perygl llifogydd a'i gynlluniau rheoli perygl llifogydd.
Bydd y strategaeth, a gefnogir gan gynllun mwy tactegol, yn egluro ein sefyllfa bresennol o ran rheoli perygl llifogydd, ein nodau ar gyfer 2030 a sut y byddwn yn eu cyflawni.
Bydd y broses hon yn helpu i nodi gwybodaeth leol am ardaloedd sy'n dueddol o gael llifogydd, digwyddiadau llifogydd hanesyddol, a gwendidau sy'n benodol i gymunedau.
Yn aml, mae gan drigolion a rhanddeiliaid lleol drosolwg unigryw am eu hardal leol a all gyfrannu at ddatblygu strategaeth effeithiol o ran llifogydd.
Rydym yn gofyn i'r cyhoedd lunio'r polisïau a'r strategaethau rheoli llifogydd. Drwy ddod yn gyfranogwyr gweithredol yn y broses o wneud penderfyniadau yn hytrach na bod yn dderbynwyr goddefol i fentrau rheoli llifogydd.
Bydd yr ymgynghoriad hwn yn galluogi'r cyhoedd i ddeall y rhesymeg y tu ôl i fesurau arfaethedig, yr effeithiau posibl, a'r strategaeth yn gyffredinol.
Mae hefyd yn sicrhau bod y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn atebol am eu gweithredoedd drwy gynnwys y cyhoedd yn y broses o wneud penderfyniadau.
Bydd yn galluogi gwybodaeth i gael ei lledaenu ynghylch mesurau amddiffyn rhag llifogydd, systemau rhybuddio cynnar, cynlluniau ymateb brys, a gweithdrefnau gadael mewn argyfwng.
Drwy gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd, mae cymunedau'n dod yn fwy parod ac yn fwy gwydn i lifogydd.