Gwybodaeth am dai

Diweddarwyd y dudalen ar: 17/05/2024

Mae'r Tîm Cyngor Tai yn darparu cyngor tai am ddim. Ein nod yw atal digartrefedd trwy gynnig cyngor a chymorth i'ch galluogi i aros yn eich cartref eich hun neu efallai y gallwn helpu i sicrhau llety arall trwy edrych ar yr holl opsiynau tai. Bydd Swyddog Tai yn gweithio gyda chi i geisio eich atal rhag dod yn ddigartref neu i leddfu eich digartrefedd.

Mae'r Tîm Cyngor Tai yn gweithio yn unol â Deddf Tai (Cymru) 2014.

‘Efallai eich bod chi’n ddigartref os ydych chi’n cysgu allan, os nad oes gennych chi hawliau i aros lle rydych chi neu os ydych chi’n byw mewn tŷ anaddas. Hyd yn oed os oes gennych do uwch eich pen gallwch fod yn ddigartref o hyd.’ (Shelter Cymru, 2018)

 

Does dim angen ichi fod yn cysgu allan ar y stryd i gael eich ystyried yn ddigartref. Gallech hefyd fod yn ddigartref yn gyfreithiol os ydych:

  • Yn aros dros dro gyda ffrindiau neu deulu
  • Yn aros mewn hostel neu wely a brecwast
  • Yn byw mewn llety gorlawn
  • Mewn perygl o drais neu gamdriniaeth yn eich cartref
  • Yn byw mewn amodau gwael sy'n effeithio ar eich iechyd
  • Yn byw yn rhywle lle nad oes gennych hawl gyfreithiol i aros (e.e. squat)
  • Yn byw yn rhywle na allwch fforddio talu amdano heb amddifadu eich hun o hanfodion sylfaenol
  • Yn cael eich gorfodi i fyw ar wahân i'ch teulu, neu rywun y byddech chi fel arfer yn byw gyda nhw, oherwydd nad yw eich llety yn addas. (Shelter Cymru, 2018)

Os ystyrir eich bod yn ddigartref y noson honno, efallai y bydd y swyddog ar ddyletswydd yn cynnig yr opsiynau canlynol i chi;

  • Llety dros dro neu lety brys yn amodol ar asesiad risg (gall hyn fod naill ai yn Sir Benfro neu'r tu allan iddi, yn dibynnu ar amgylchiadau unigol).
  • Rhoi gwybodaeth i chi fel y gallwch gael pecyn cysgu ar y stryd.
  • Cyfryngu gyda'ch teulu/ffrind/partner/landlord ac ati i'ch galluogi i aros dros nos.

Sylwer: nad yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr a bydd yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Efallai y gall Swyddog Tai eich helpu gyda'r canlynol:

  • Llenwi ffurflen Cais am Dŷ i ymuno â chofrestr Tai’r Cyngor.
  • Gwybodaeth gyffredinol am dai, gan gynnwys:
  • Cyngor am rentu'n breifat
  • Cyngor am rentu gan yr Awdurdod Lleol neu Gymdeithas Tai
  • Cyngor am beth i'w wneud os ydych yn cael trafferth talu'ch morgais
  • Cyfryngu gyda'ch teulu, landlord neu gwmni morgais.
  • Cyfeirio at asiantaethau eraill a allai helpu.
  • Cyngor cyfreithiol sylfaenol am dai.
  • Cyngor ariannol a rheoli dyledion sylfaenol.
  • Atgyfeirio at Dîm Tai Sector Preifat y Cyngor ar gyfer ymholiadau ynghylch dilysrwydd rhybuddion a hefyd am ddiffygion neu beryglon posibl.
  • Gwneud trefniadau i fynychu Swyddfeydd y Cyngor ar gyfer apwyntiad gyda Swyddog Tai, yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol.

Mae'r sefydliadau canlynol yn gweithio ochr yn ochr â'r Cyngor a'r gwasanaeth y mae ganddo ddyletswydd statudol i'w ddarparu, ac efallai y gallant eich helpu neu'ch cefnogi gyda'ch problemau tai.

Gellir gwneud atgyfeiriadau i Op FORTITUDE trwy ein ffurflen atgyfeirio ar-lein neu drwy Rhadffôn 0800 9520774.

Byddai angen i chi fynychu apwyntiad gyda Swyddog Tai a fyddai’n eich helpu i lenwi Asesiad Anghenion Tai i asesu eich angen am dai – mae hwn yn cael ei adnabod fel Asesiad Adran 62 yn unol â Deddf Tai (Cymru) 2014. Gall ffrind, aelod o'r teulu, eiriolwr neu weithiwr cymorth ddod gyda chi i'ch apwyntiad.

Rydych naill ai wedi gofyn am gael gweld Swyddog Tai neu wedi gwneud apwyntiad i weld Swyddog Tai mewn perthynas â’ch sefyllfa dai. Rydym yn deall eich bod efallai yn teimlo'n bryderus ynglŷn â hyn. Mae'r daflen hon yn helpu i egluro beth i'w ddisgwyl o'r cyfarfod hwn.

Efallai bydd y cyfarfod yn para tua awr. Yn y cyfarfod hwn, bydd angen i'r Swyddog Tai ofyn llawer o gwestiynau manwl i chi am eich sefyllfa. Gall y rhain gynnwys cwestiynau personol am eich iechyd, cyllid, amgylchiadau blaenorol a phresennol a, lle bo'n briodol, unrhyw gofnod troseddol. Mae'n rhaid i ni ofyn y cwestiynau hyn i wybod pa gymorth, os o gwbl, y gallwn ei roi i chi. Mae’n bwysig eich bod yn ateb y cwestiynau'n llawn ac yn onest. Gellir cynnal cyfweliadau mewn bwth cyfweld agored. Dim ond hyn a hyn o fynediad sydd gyda ni i fwth preifat, felly dywedwch wrth y Swyddog Tai os ydych yn dymuno cynnal y cyfweliad yn y bwth. Sylwer y gallai hyn olygu y byddwch yn aros am hirach i weld Swyddog Tai.

Os oes unrhyw beth nad ydych am ei drafod, neu os ydych yn teimlo'n anghyfforddus gydag unrhyw un o'r cwestiynau a ofynnwyd, rhowch wybod i'r Swyddog Tai ar y pryd. Cofiwch, os na allwch ateb cwestiynau'n llawn, y gallai hyn gyfyngu ar yr help y gallwn ei roi i chi.

I gynorthwyo’r Swyddog Tai i gael gwell dealltwriaeth o’ch amgylchiadau, a gallu gwneud penderfyniad yn gynt ynghylch pa gymorth, os o gwbl, y gellir ei roi, dewch â’r canlynol gyda chi i’ch cyfweliad:

  • Prawf Adnabod e.e. tystysgrif geni, trwydded yrru, pasbort ac ati.
  • Manylion eich incwm a gwariant e.e. eich cyfriflenni banc ar gyfer y tri mis diwethaf.
  • Manylion unrhyw feddyginiaeth a ragnodwyd i chi neu aelod o’ch cartref e.e. presgripsiwn amlroddadwy, llythyr meddyg teulu ac ati.

Os nad yw'r wybodaeth hon gyda chi yn y cyfweliad, trafodwch hyn gyda'ch Swyddog Tai ac os oes angen dylid darparu'r wybodaeth hon cyn gynted â phosibl ar ôl eich cyfweliad.

Bydd yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Bydd y Swyddog Tai yn gallu rhoi mwy o gyngor am hyn pan fyddwch wedi trafod eich amgylchiadau. Sylwer bod unrhyw gyngor a roddir yn rhad ac am ddim, a bydd yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarparwyd gennych chi. Gofynnir i chi hefyd lofnodi Datganiad sy'n nodi bod y wybodaeth a ddarparwyd gennych i ni yn gywir ac nad ydych wedi celu gwybodaeth nac wedi ein camarwain mewn perthynas â'ch amgylchiadau. Trwy lofnodi Datganiad, rydych hefyd yn rhoi caniatâd i'r Swyddog Tai wneud ymholiadau, fel y nodir isod, i helpu i allu rhoi cyngor a chymorth pellach i chi, os yw'n briodol.

Bydd y Swyddog Tai yn gwneud ymholiadau, gan gynnwys, lle bo’n berthnasol, gwiriadau gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau, Adrannau eraill y Cyngor e.e. Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg, Meddygon Teulu a Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol eraill, landlordiaid blaenorol a phresennol, asiantaethau credyd ac adrannau eraill y llywodraeth e.e. Gwasanaeth Prawf, yr Heddlu a hefyd unrhyw un o'ch rhwydwaith cymorth e.e. teulu, ffrindiau, gofalwyr/gweithwyr cymorth ac ati.
Sylwer nad yw hwn yn gyflawn, gan y bydd yn dibynnu ar amgylchiadau pob cwsmer unigol.

Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio gwybodaeth a gedwir yn y parth cyhoeddus, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol. Mae’n bwysig eich bod yn darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol cyn gynted â phosibl oherwydd gallai oedi ymestyn yr amser ymchwilio, neu arwain at benderfyniad yn seiliedig ar wybodaeth anghyflawn. Bydd y Swyddog Tai wedyn yn penderfynu pa gymorth, os o gwbl, y gallwn ei ddarparu yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol. Byddwch yn cael gwybod am y penderfyniad hwn yn ysgrifenedig ymhen 10 diwrnod gwaith yn dilyn eich cyflwyniad gwreiddiol i'r Adran Tai mewn perthynas â'ch sefyllfa dai. Byddwch yn cael gwybod enw eich Swyddog Tai. Efallai y bydd eich Swyddog Tai hefyd yn rhoi rhestr i chi o wybodaeth bellach sydd ei hangen, neu restr o bethau sydd angen i chi eu gwneud.

Byddwch hefyd yn cael Pecyn Cyngor Tai, y dylech ei ddarllen cyn gynted â phosibl ar ôl eich cyfweliad. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y wybodaeth a ddarperir i chi yn y Pecyn Cyngor Tai, cysylltwch â'ch Swyddog Tai ynglŷn â hyn. Os ydych yn ansicr ynghylch unrhyw ran o'r wybodaeth, gofynnwch i'r Swyddog Tai ar ddechrau eich cyfarfod.

Creu Cynllun Tai Personol gyda thasgau y bydd angen i chi a'ch Swyddog Tai eu gwneud i'ch helpu i ddod o hyd i lety addas, cynaliadwy a fforddiadwy. Bydd hwn yn manylu ar y camau rhesymol y byddai angen i'r ddau ohonoch eu cymryd yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol. Gallai'r rhain gynnwys:

  • Chwilio am dai yn y sector rhentu preifat.
  • Cynilo ar gyfer bond a/neu rent ymlaen llaw i gaffael tenantiaeth.
  • Gwneud cais am gymorth bond ar gyfer eiddo addas yn y Sector Rhentu Preifat.
  • Cwblhau gwiriadau perthnasol, sy’n ofynnol yn gyfreithiol i gefnogi cais am fond e.e. RHAID i’r landlord/asiantaeth gofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru.
  • Sicrhau bod eich cais am Dŷ yn gyfredol a bod y band cywir yn cael ei ddyfarnu i adlewyrchu eich amgylchiadau.
  • Gwneud atgyfeiriadau perthnasol at asiantaethau cefnogi.
  • Ymgysylltu â gweithwyr cymorth a/neu asiantaethau.
  • Mynd ati’n rhagweithiol i geisio dod o hyd i lety arall, e.e. gwneud cynigion perthnasol ar eich cais am gartref o ddewis.
  • Derbyn copi ysgrifenedig o'r cymorth y gallwch ei ddisgwyl gan yr Adran Tai.
  • Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'ch gilydd am unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau.

Sylwer nad yw'r rhestr hon yn gyflawn a bydd eich Cynllun Tai Personol yn seiliedig ar eich amgylchiadau unigol ac yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd yn ôl yr angen.

Llwythwch mwy

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau