Maniffesto Gweithredu dros yr Hinsawdd
Mae pobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin yn cymryd yr awenau i fynd i'r afael â gweithredu yn yr hinsawdd fel rhan o brosiect sy'n ysgogi pobl ifanc i fod yn gatalydd ar gyfer newid. Drwy gyfrwng y prosiect 'Walk the Global Walk', mae Gôl-geidwaid Byd-eang Sir Gaerfyrddin wedi creu maniffesto ar gyfer Nod Datblygu Cynaliadwy 13 ar Newid yn yr Hinsawdd. Mae Nod Datblygu Cynaliadwy 13 yn un o'r 17 Nod Datblygu Cynaliadwy a sefydlwyd gan y Cenhedloedd Unedig yn 2015 i 'Gymryd camau brys i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a'i effaith'.
Daeth yr argymhellion i'r amlwg drwy drafodaethau â Gôl-geidwaid Byd-eang o wledydd partner, cynghorwyr a swyddogion y cyngor, athrawon, cynrychiolwyr y Cyngor Ieuenctid, Dolen Cymru Lesotho a Chadwch Gymru'n Daclus.
Gan gynrychioli pobl ifanc Sir Gaerfyrddin, maent wedi dod yn ymwybodol iawn o'r peryglon i'w cenhedlaeth eu hunain ac i genedlaethau'r dyfodol a achosir gan ddiffyg gweithredu yn wyneb newid yn yr hinsawdd. Mae'r argyfwng hinsawdd eisoes yn effeithio ar filiynau ledled y byd, gan daro galetaf y rhai sydd â'r adnoddau lleiaf i ddelio ag ef.
Maent yn gwneud newidiadau i'w ffordd o fyw fel unigolion ac yn arwain camau gweithredu yn eu hysgolion a'u cymunedau i addasu i newid yn yr hinsawdd a'i liniaru. Fodd bynnag, os ydynt am gael effaith ystyrlon, ni allant wneud hyn ar eu pennau eu hunain. Maent wedi gofyn i'r cyngor addo i ymrwymo i weithredu dros yr hinsawdd:
- Hyrwyddo datblygiad mannau gwyrdd a chefnogi plannu rhywogaethau o goed brodorol, o leiaf 10 coeden ym mhob ysgol, neu gymuned ysgol os nad yw tir yr ysgol yn addas, a sicrhau eu diogelwch parhaol
- Annog a chefnogi trafnidiaeth ddiogel a chynaliadwy ar gyfer ysgolion gan gynnwys rhannu ceir, cerdded a beicio e.e. darparu llochesi beic.
- Sefydlu corff ymgynghori ar weithredu dros yr hinsawdd sy'n cynnwys grŵp cynrychiadol o bobl ifanc, cynghorwyr, swyddogion cyngor a busnesau lleol sy'n cyfarfod bob 3 mis i sicrhau cynnydd ar y maniffesto hwn.
- Darparu cefnogaeth i wledydd datblygol i frwydro yn erbyn effaith newid yn yr hinsawdd e.e. trwy gefnogi menter Maint Cymru
- Cefnogi creu gerddi mewn ysgolion a chymunedau lleol i ddarparu bwyd ac annog bioamrywiaeth e.e. darparu hadau a gwrtaith heb fawn.
- Dyblu defnydd y cyngor o gerbydau hybrid a thrydan a gosod pwyntiau gwefru trydan mewn ysgolion cynradd ac uwchradd priodol erbyn Ionawr 2022.
- Cydweithio ag ysgolion a chyflenwyr i leihau’r defnydd o blastig un defnydd mewn ysgolion erbyn Ionawr 2022.
- Sicrhau bod gan bobl ifanc y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i gyflawni gweithredoedd hinsawdd perthnasol.
Wedi ei lofnodi gan Gôl-geidwaid Byd-eang ac Athrawon o:
- Ysgol Bro Dinefwr
- Ysgol Gyfun Coedcae
- Ysgol Glan-y-Môr
- Ysgol Gyfun Y Strade
- Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth
- Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin
Wedi ei gymeradwyo gan gynrychiolwyr Cyngor Sir Gaerfyrddin a Chyrff Anllywodraethol:
- Gareth Morgans, Y Cyfarwyddwr Addysg
- Cefin Campbell, Aelod y Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig
- Rebecca Stone, Swyddog Lleihau Carbon
- Polly Seton, Swyddog dros Gysylltu ag Ysgolion Rhyngwladol
- Bethan Evans Phillips, Swyddog Eco-sgolion, Cadwch Cymru’n Daclus
- Mandy Ballett & Sharon Flint, Swyddogion Addysg, Dolen Cymru Lesotho
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
Cynghorwyr, ACau ac ASau
- Eich Cynghorydd Sir
- Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'r Cynllun Deiseb
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Sut mae bod yn Gynghorydd
Adrannau'r Cyngor
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
- Agendâu a chofnodion
- Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
- Dyddiadur y Cyngor
- Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
- Y Cabinet
- Penderfyniadau swyddogion
- Cynlluniau gwaith i'r dyfodol
- Pwyllgor Cynllunio
- Craffu
- Pwyllgor Safonau
- Cyngor Ymgynghorol Sefydlog dros Addysg Grefyddol (CYSAG)
Strategaethau a chynlluniau
Cyllideb y Cyngor
- Crynhoad Cyllideb
- Datganiad Cyfrifon
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe
- Ffyrdd syml i arbed arian i'r Cyngor
Ymgynghori a Pherfformiad
- Ymgynghoriadau actif
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Amcanion lles
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2021-22
Hysbysiadau cyhoeddus
Canllawiau Brexit
Iaith Gymraeg
Carbon Sero-net
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyfamod Lluoedd Arfog
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiadau Lleol 2022
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru eich manylion ar y Gofrestr Etholiadol
- Diweddariad blynyddol o'r gofrestr pleidleiswyr
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Etholiadau Senedd Cymru
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2021
- Etholiad Cyffredinol Seneddol 2019
- Help i Bleidleiswyr Anabl
- Adolygiad o Ffiniau Seneddol
- Deddf Etholiadau 2022 ac ID Pleidleisiwr
- Adolygiad Cymunedol 2023
Diogelu Data
Mwy ynghylch Cyngor a Democratiaeth