Diweddaru eich manylion ar y Gofrestr Etholiadol
Diweddarwyd y dudalen ar: 07/08/2023
Bob blwyddyn, byddwn yn cysylltu â phob eiddo ar ein cronfa ddata i sicrhau bod gennym y wybodaeth ddiweddaraf. Bydd llythyr cyfathrebu yn cael ei hanfon atoch yn y post, a bydd angen i chi ddweud wrthym a yw'r wybodaeth sydd gennym amdanoch yn gywir.
Fel arfer, byddwn yn gwneud hyn yn yr hydref, fel y gallwn gyhoeddi ein cofrestr Etholiadol newydd ym mis Rhagfyr. Nid yw llenwi'r ffurflen hon yn golygu eich bod wedi cofrestru i bleidleisio.
Mae'n bwysig darparu'r wybodaeth y gofynnir amdani. Mae cosb droseddol am fethu â darparu'r wybodaeth o uchafswm o £1000.